Mae’r Coed yn Trysori’r Hyn A Gollasom
Troedia’n ofalus wrth inni grwydro hyn o gerdd.
Gwylia olion ein siwrneiau’n cyfoethogi’r pridd.
Mae atgofion ynghwsg yma, dan drum a chŵys,
yn disgwyl maeth a gwres ein geiriau ni.
Mae’r coed yn trysori’r hyn a gollasom,
ac arlliw wynebau’r hanner-cof ar eu rhisgl.
Casgla’r cerddin, coch fel brics, a phriciau derw a bedw,
casgla holl liwiau’r cof ynghyd
wrth i ni ymlwybro trwy goedwig amser.
(Cyfieithiad Iestyn Tyne o gerdd Hanan Issa)