Y Di-glod
Wna i ddim clapio i chi – yr anghofiedig, llyffeitheiriog, di-glod.
Yn darnio’r stori ynghyd o’r olwg ar eu hwyneb, y gwaed.
Eiliadau mor enbyd, mor boenus.
‘Ro’n i wastad eisiau helpu pobl’ yn atseinio heibio goleuadau crynedig
a choffi oer wrth i chi dorchi llewys gan wybod
fod mam, brawd, neu gymydog rhywle ’n aros.
Alla i ddim clapio i chi – fforddolion. Yn pwytho gobaith mewn sifftiau
o du ôl i len, tu ôl i gwarel wydr.
Tafellau o groen ar sleidiau, eu hatebion lliw llachar
ynghudd mewn cymylau a smotiau inc. Ac eto rydych chi’n
mordwyo’ch ffordd at berson. Yn camu mewn i gartrefi llawn ewyn
ofn, cyn gadael rhywbeth siâp coflaid gynnes yn eich holau.
Feiddia i ddim clapio i chi – siamaniaid yn tywynnu mewn cysgodion.
Yn chwilio am belydrau gobaith, yn dal plasma at y golau.
Sut ydych chi’n consurio gwenau a llwyddiannau
heb gwsg na sicrwydd? Meithrin ffydd o dryblith chwilfriw.
Cleifion heb syniad am eich gwasanaeth,
yn geirio ‘troponin’ neu ‘lliniarol’ fel gweddi.
Cymerwch y pin, fy mhapur, y geiriau hyn i gyd.
Ond alla i ddim addo cymeradwyaeth i chi,
am fod clapio’n awgrymu fod y gwaith ar ben.
Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru
cyfieithiad Cymraeg gan Grug Muse
Comisiynwyd y gerdd gan Llenyddiaeth Cymru i nodi 75 mlynedd ers sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.