Cerdd gan Hanan Issa. Cyfieithiad gan Iestyn Tyne.
Sgwenna gerdd am y peth, medd rhai.
Ac mae’n siŵr y gwna i gan fod
gadael bwlch lle mae cerdd yn mynnu
bodoli fel cau drws yn glep ar gorwynt.
Wrth iddi dywallt ohonof, dyma gerdd fydd yn
chwarae mig â mi.
Wrth imi ei thocio’n wrych cymen o eiriau,
clywaf blant yn sownd yn llawnder yr atalnodau.
Ac o air i air, byddan nhw’n camu dros y bylchau
dros y rhesi o feirwon – yn frodyr, yn famau.
Mae yn rhywle’n Gaza, mae’n debyg,
fenyw yn tynnu’i bol ati
am y tro olaf un. Yn syllu i ffrâm aur ei
drych, yn ysu am weld harddwch ei chorff
dan warchae. A dyna un arall, wrth ddesg, yn gloff
gan ofn y bomiau neu ofn y ddalen wen, wag
o’i blaen. Tipian ei theipio, sŵn dileu –
A dyna Dim rhagor o ladd yn nid oes. Ni fu.
Wrth wasgu ffiniau Palesteina rhwng bys a bawd, mae’n
newid cyfeiriad ar y map, yn llusgo’i thir am allan, yn llenwi
ysgyfaint gwlad wrth i’r bobl grwydro’n
hamddenol rhwng y winllan olewydd hynafol hon, ac
adeiladau’r gwladychwyr acw. Maen nhw’n cofio cân eu croeso
wrth i’r cychod lithro i borthladd rywdro, amser maith, maith yn ôl.
Chwalodd yr Almaenwyr ein teuluoedd a’n haelwydydd – peidiwch chithau â chwalu’n gobeithion.
Mae pob becws ym Mhalesteina yn darged. Os am ladd yr enaid
lladdwch arogl bara’n syth o’r popty am fod
bywyd mewn torth. Bywyd dydd i ddydd i ddydd ac os am
roi terfyn ar genedl mae’n rhaid diweddu pob llawenydd.
Rhoi taw ar chwerthin. Ydi’r adar yn dal i ganu
yn Gaza, tybed? Wn i ddim a yw’n bosib
clytio nyth uwchlaw’r hil-laddiad sy’n
carpedu’r ddaear â chyrff – Chwi lygod mawr, chwi nadroedd,
gwrandewch! meddai’r llais ar ben draw’r ffôn. Byddwn ni (eich gelyn
rhadlon, hael) yn difa eich aelwydydd (a’ch gobaith) ymhen pum munud.
Rhedwch. Ac rydw innau’n rhedeg.
Heibio i’r nythod gwag, y becws llosg.
O’r awyr, daw chwarddiad metelaidd
fel taran – peidiwch â chwalu’n gobeithion – wrth i’r cymylau
wylo gwenwyn ac wrth i minnau redeg ar draws y map.
A’r sgwennwr, mae hi’n rhedeg wrth fy ochr. A’r fenyw sy’n gweld
ei chorff yn hardd, mae hithau’n rhedeg. Er mwyn ei bywyd, nid er ei lles,
ac rydan ni’n rhedeg, fel y gwynt. Yn dychwelyd i ddiogelwch cerdd wag,
yn chwilio am ein lle ar y ddalen wen.
Ond mae’r gerdd yn farw.
Y fenyw, ei chorff yn hyll, yn farw.
Geiriau wedi’u sbydu i’r baw. Mae’r sgwennwr yn farw.
Calonnau adar yn teilchioni. Yn farw.
Ac rydw i’n farw, ni’r meirw-byw
a’n bysedd yn rhuddo o’r sgrolio trwy
dameidiau sain a chyfrifon ar-lein
y meirw.
Ond mae’r meirw’n fud,
fel yr ydan ninnau’n fud,
mor fud â’r cyrff y camwn drostynt
wrth sweipio, a’n bysedd yn dystion.
Rydym yn farw yn llygaid y rhai sy’n marw yn Gaza.