Dewislen
English
Cysylltwch

Yma’n y drindod wyrdroedig

rhwng canser dreng, gwaed drud a gobaith rhad,

byddwn yn gefn i ti, wrth herio’r nos.

 

Cyd-gerddwn â thi

wrth groesi unigeddau’r haint,

sy’n crino dy ffydd â’i haul blin;

 

a gwasgwn dy law

wrth syllu i’r gwacter

sydd rhwng y sêr…

 

Ac yn rhwymau’r siwrnai enbyd hon,

oedwn,

a chymryd ein gwynt,

 

gan ddiolch i’r rhai

a loywodd y llwybrau hyn o’n blaen,

pan oedd covid yn bygwth eu cau;

 

cofiwn am y sawl

y bu pen eu taith cyn pryd,

a cherddwn ymlaen er eu mwyn, nes cyrraedd ein nod…

 

A bob tro y cenir y gloch,

bydd calon goll

yn ymfalwnio’n rhydd, drwy’r glesni pell…

 

Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru

(Comisiynwyd gan Ymddiriedolaeth Felindre i nodi ymroddiad staff a gwirfoddolwyr yr ysbyty yn dilyn blwyddyn o bandemic Covid-19.)

Nôl i Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru 2016 – 2022