Ail -ddychmygu
Wnaiff cerddi ddim atal canser:
sdim modd cloi hwnnw mewn mydr ac odl,
na’i gadwyno mewn cynghanedd…
Mae canser yn fwy na dychymyg bardd,
yn prysur goloneiddio’ch corff,
yn plannu’i fflagiau hy
i hawlio’r tirlun – a’i lurgunio,
drwy godi bryniau dolur
lle bu caeau gwastad gynt.
Mae’r sglyfaeth yn drysu’r mapiau i gyd,
yn boddi trefi,
yn codi coedwigoedd
fel grawn unnos, ar ganol traffyrdd,
yn gwyrdroi’r drefn.
Na, wnaiff cerddi ddim atal canser;
ond pan ddown â’n syrcas ymchwil i’r dre,
gyda’n bytwrs tân a’n gwyddonwyr trapîs,
gan godi’n pabell drwy’ch corff chi i gyd,
gallwn ailfapio’r cyfan,
symud mynyddoedd,
draenio moroedd poen.
Ond mae dychymyg yn rhan o’n grym:
ni yw prifeirdd gobaith
yn labio canser
â phenillion iachâd,
yn jyglo triniaeth ac ymchwil cyfoes
yn adfer trefn – yn estyn einioes.
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
(Comisiynwyd gan Ganolfan Ymchwil Canser Cymru i nodi Diwrnod Canser y Byd 2021)