Dychmyga’r Fenai’n cael ei sugno tu hwnt i’r trai arferol,
cyn hyrddio nôl yn don ugain troedfedd sy’n chwalu drwy’r strydoedd
ac yn dymchwel tai.
Dychmyga’r penawdau ar Post Prynhawn a Wales Today:
“miloedd wedi marw yn Arfon a Môn”.
A beddi torfol yn Llanbeblig a Borth.
A dealla, er mor sydyn y llyncwyd llawer gan y don anferthol honno,
bydd mwy yn marw wedyn.
Wrth giwio am ddŵr ym Maes Barcer.
Wrth ddisgwyl yn ofer am lori fwyd ar Ffordd Farrar.
Wrth i beipiau carthffosiaeth tollti’u budreddi ar hyd Cil Bedlam.
Dychmyga hyn i gyd a diolcha mai nid felly y bu.
Yma.
Yng Nghymru.
Yna, wrth ddiolch, tyrcha’n ddyfn i’th boced,
agor dy galon a’th waled i helpu’r miloedd a gollodd bopeth fel hyn,
yn Palu.
Gwna heddiw.
Gwna rwan.
Yfory gall fod yn rhy hwyr.
Diolch am beth bynnag y gellwch ei roi.
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
(Dyma gerdd gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn i gefnogi apêl DEC Cymru dros drigolion Indonesia oedd wedi dioddef yn enbyd wedi i tsunami daro’r wlad.)