Gwyliais fy ngwlad o bell
sawl tro cyn hyn:
– yn alltud gwaith,
mewn pybs anghyfiaith,
anghymunedol;
neu’n soffa-warchod ‘mhlantos nôl-a-mlaen,
a’u synnu gyda ‘ngweiddi ofer ar y sgrîn,
a’r rhychu carped ar fy nwy benglin
wrth ewyllysio gôl!
Tro hwn, ‘run faciwm
sy’n ein gwahodd, un ac oll…
O bell, clustfeiniwn ar y sgwrs ar gae
sy’n tystio fod ein gobaith yn parhau,
ac un ar ddeg yn gwadu nad ŷm ni’n
rhy fach, rhy dlawd, rhy dwp, i hawlio’n lle.
A dygwn hynny nôl o’r stadiwm wag
i bob cynefin, cario’r sgwrs ymlaen:
cans onid llesol i bob enaid coch cytûn,
gael bod yn rhan o Gymru
sydd yn fwy na fo ei hun?
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
(Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru oedd Bardd y Mis BBC Radio Cymru yn Medi 2020. Dyma gerdd wrth i dîm pêl-droed Cymru baratoi i wynebu’r Ffindir yn eu gêm agoriadol yng Nghynghrair y Cenhedloedd.)