Dewislen
English
Cysylltwch

Cofio’r Cau

 

…Braich Ucha, Garrett Ganol, Ponc Robin Rabar;

 

Prinhau mae’r rhai sy’n deall iaith y graig

sy’n deall her y ‘traed’ a’r ‘crychod’ a’r ‘brig trwm’;

sy’n rhegi’r cerrig budron

ac yn canmol rhai fel sidan.

 

…Awstralia, Pont Mosys, Toffat;

 

A chydig heddiw fedar gofio emynau’r graig,

fu’n gryndod bas ar flondin neu inclên,

cyn brashollti’n bedwar llais,

yn gymanfa gyllyll naddu….

 

…Ponc Swallow, Califfornia, Sinc Wembley;

 

Mud yw’r mynydd mwyach

ond mae camp ein cyndadau

yn llafar ar y llethrau hyn o hyd.

 

…Hafod Owen, Llangristiolus, Y Bonc Fawr;

 

Nid rhyw ‘gewri stori fusutors’

wnaeth gerfio’r grisiau anferth hyn,

ond gwerin dwylo garw

a’u ffydd yn symud mynyddoedd,

wrth gonsurio cerrig yn fara,

fesul ponc a sinc.

 

…Matilda, Aberdaron, Ponc Teiliwr;

 

Ac os dewch yn nes,

a meinio’ch clustiau

yn erbyn y gwynt,

yn erbyn rhyfyg y dringwyr rhaffau glas,

bydd y ponciau’n sibrwd eu henwau o hyd…

 

….Twll Dwndwr, Bonc Wyllt, New York;

 

Hanner canrif wedi’r cau

mae gwaddol eu gorffennol

yn dal i ddwyn hen fyd yn ei ôl;

ond gwae ni’r plant

a wyrion eu brodir

pan elo ponciau’r hanes

yn geudod mud

ar ystlys Elidir…

 

…Sinc Galed, Ponc Enid, Abyssinia.

 

Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru

(Dyma gerdd a gomisiynwyd gan Amgueddfa Lechi Cymru i nodi 50 mlynedd ers cau’r Chwarel Dinorwig. Roedd y comisiwn yn cyd-fynd ag arddangosfa Cofio’r Cau – Dinorwig ’69, oedd yn cynnwys gwaith celf a barddoniaeth gan blant ysgol ardaloedd y chwareli, wedi ei gwblhau mewn gweithdai o dan ofal yr artist Mari Gwent ac Ifor ap Glyn. 

Am ragor o wybodaeth am arddangosfa Cofio’r Cau – Dinorwig ’69, cliciwch yma.)

Nôl i Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru 2016 – 2022