Dewislen
English
Cysylltwch

30.6.20

Dim ond tanbelennau

sy’n troi’r tir yn Llwynteg- ucha,

yn Waunlwyd, yn Abercriban a Chwm Car…

 

Erwau’r magnel yw’r Epynt yn awr;

a baner goch ‘sa draw’ yn cwhwfan,

lle bu cynfas gwyn mewn cae, i alw cymydog gynt,

o Gelli Gaeth, Ffrwd Wen neu Ddôl Fawr…

 

Ni fydd neb yn twymo’r Babell

cyn y plygain mwy;

ni fydd lampau stabal

yn sgwennu’u ffordd drwy gaeau’r nos

o Flaenysgirfawr, Cefncyrnog na Thir Bach…

 

Canys curwyd y sychau’n gleddyfau;

gwnaed gwayffyn o’r pladuriau

er mwyn ‘marfer rhyfel yma,

yn Ffos yr Hwyed a Gwybedog,

yng Ngharllwyn a Llwyn onn…

 

Ond er bod yr hen fygythiad

yn atseinio ‘Mrycheiniog o hyd,

a dim golwg o’r cadoediad

ym Mlaenegnant Isa,

Cefn Ioli, na Disgwylfa,

 

cadwn yr enwau, fel lampau ynghynn;

ailaredig atgofion a wnawn, o bell,

a chanwn ym mhabell ein tystiolaeth

am Bant mawr a Rhyd y maen…

Brynmelyn a Brynmeheryn…

Beili Richard a Blaentalar…

Llawrdole a Llwyn Coll…

 

Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru

(Ym Mehefin 1940, trowyd 219 o Gymry allan o’u cartrefi ar Fynydd Epynt i greu lle ymarfer saethu. Dyna’r diwedd i Ysgol Cilieni, Capel y Babell a 54 o ffermydd; cymuned gyfan…)

Nôl i Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru 2016 – 2022