Copa’r Wyddfa
Ymrithiant o’r niwl, a’u hysfa am yr ucha’
yn eu gyrru’n drwmdroed luosog
ar lwybr caeth tua’r copa.
A pha hawl sy gen innau
warafun i’r rhain eu hunlun sydyn?
– wrth gipio’r top am ennyd
ac yna dychwelyd,
mor ansylweddol bellach
â’n cyndadau fu’n creithio’r mynydd gynt…
Fu neb o deulu Nain, â’u sgidiau hoelion mawr
ar gopa Rhita Gawr erioed,
‘mond twrio’n ddygn i’w ystlys
yn Chwarel Glyn
– ond mae’r Wyddfa’n wytnach na phawb…
Ac yn hualau fy hamdden innau,
nid stadiwm i’n campau yw’r mynydd i mi
ond cadeirlan i’r ysbryd
a’n camau’n cytseinio’n ysgafn
â’r camau a fu.
Ac yn yr unigeddau hyn
mae’r cynfyd main sy’n dyrchafu’r enaid
ac yn dwyn yr ysbryd mawr yn nes…
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
(comisiynwyd ar gyfer ‘Enaid Eryri’ gan Richard Outram; fe’i hatgynhyrchir yma drwy garedigrwydd y cyhoeddwr, Gwasg Carreg Gwalch)