Croeso i’r CELYN
11.12.20
Mae’r beirdd ‘di dallt hi erioed:
yn mynnu talu cymwynas hefo cerdd,
prynu hefo penillion;
hyd yn oed gwerthu gwawd ar gân.
Mae’r awen yn arian amgen
-ond nid yr unig un.
Bu’r ‘gwŷr a aeth Gatraeth’ gynt
yn talu’u medd hefo cleddyf;
ein ffermwyr yn ffeirio’u llafur,
adeg c’naea, hel mynydd, neu’r cneifio.
Dan ddaear, clymwyd dynion
gan gyfalaf emosiynol amgen;
a phwy aiff i dŷ galar heddiw
heb fod ei fraich yn gam?
Hen bryd felly groesawu’r CELYN;
fel y coed cynhenid, mae’u gwreiddiau ynom ni
ers cyn i’r bunt rododendro ein tir.
A daw’r CELYN cyn bo hir,
mor anhepgor â baner ein gwlad:
hefo gwyn y blodau, fel buddsoddiadau,
a choch yr aeron, pan wnân nhw ddwyn ffrwyth,
a gwyrdd y dail, sy’n gwarchod yr asedau…
(a bydd y CELYN yn ffynnu o dymor i dymor,
nid bwrw ei dail, ar ôl i’r fusutors fynd)
Cofleidiwn felly eu nod cymunedol
ac ymuno yn eu tŵf, gan gofio hyn:
nid yw’r CELYN yn llwyni o bethau –
mi dyfan nhw’n goed, os can nhw eu cyfle!