Mae’n bwrw mor aml
mewn byd drycinog,
ond mae dy ffyn bob tro yn cloi’n
gromen berffaith, uwch fy mhen;
a than dy adain, caf hedfan yn unfraich,
drwy ddychymyg yr hil.
I rai, rwyt ti’n ‘cau’n deg ag agor,
ond o’th rolio’n dynn,
mi roddi sbonc
i’n cerddediad fel Cymry;
ac mi’th godwn yn lluman main
i dywys ymwelwyr at ein hanes,
a thua’r byd amgen sydd yno i bawb…
Tydi yw’r ambarel
sydd o hyd yn ein cyfannu,
boed yn ‘gored, neu ynghau
– dim ond i ni dy rannu….
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
(Dyma gerdd gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn a luniwyd i ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi 2017.)