Pan ddaw’r dynion yn ôl at Soar a Salem,
nid yr un dynion mohonynt.
Er llonyddu’n gefnsyth ar y seti sglein,
mae’r sŵn yn eu pennau o hyd;
oglau’r polish yn edliw’r drewdod
fu yn eu ffroenau gyhŷd;
drychiolaethau wedi’u serio ar eu llygaid;
a’r “ddwy law sy’n erfyn” heddiw
yw’r ddwy law fu’n llwytho cyfaill ddoe,
ar flaen rhaw, i waelod sach.
Mae sawl lle gwag yma heno
ac mae’r dynion yn rhannu seti
hefo’r rhai na fu draw – heb fedru ‘rhannu’ chwaith…
Maen nhw fel bara a gwin…
A’r merched a ddaw i Soar a Salem?
Nid yr un merched mohonyn nhwthau mwy,
wedi mynd o iau’r cartref
at her y lle gwaith;
wedi byw’r ansicrwydd creulon o hir,
cyn i lythyr estron dynnu tafod drwy’r drws
a disgyn yn gelain i’r mat.
Mae sawl aelwyd wag yn eu canlyn nhw ‘ma heno;
sawl rhuban o ohebiaeth wedi’i chlymu’n dwt mewn drôr;
sawl sgwrs ffug-siriol wedi darfod ar ei hanner…
Ond daw pobun a’i greithiau gwahanol o’r drin
i geisio rhyw ystyr, drwy’r bara a’r gwin…
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
(Dyma gerdd gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn a gomisiynwyd BBC Cymru Fyw i nodi canrif ers Cadoediad y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1918.)