Nid cerdd mo Cymru, ond sgwrs barhaus
a gyfryngir drwy gerrig a gwydr y tŷ hwn;
mae’r derw a’r llechi’n canfod eu llais.
Nid bwydlen mo Cymru bellach,
ond cegin hud lle cawn gnoi
ar gyfreithiau ffres,
yfed ein cyfarwyddyd ein hunain,
a phobi gobeithion at ddant y to nesa.
Deuthum yma’n dad ifanc, ddau ddegawd yn ôl,
i ganu’r lle hwn i fodolaeth, i ddathlu dechrau’r sgwrs;
a gwelais wedyn fy mhlant ar eu prifiant,
cenhedlaeth gynta’r genedl drowsus hir.
Ac felly, dygwyd ein gwlad
o oes sol-ffa, i oes y selffi,
a daliwn ein hanes ryngom a’r haul,
wrth dynnu hunlun o’r teulu heddiw.
Ond rhaid rhannu’r delweddau’n well;
mae rhyddm y sgwrs yn newid
ac nid digon deisyfu ‘bod’, megis cynt,
cawn flas ar y gwneud yn ogystal.
Ac yn y tŷ hwn, a thu hwnt,
rhaid clywed ein cân o hyd, i ‘nabod ei gwerth;
‘nerth gwlad yw ei phobl’,
ond ein hyder yw ein nerth.
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
(Comisiynwyd y gerdd hon gan Llenyddiaeth Cymru yn arbennig i nodi 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru.)