Dawns 100
Bu’r Cymry ers canrif, yn dawnsio drwy’r ddinas hon,
â’u congas tai teras; swing chwil y rhyfel;
a hokey cokey’r busnesau llaeth.
Aethant yn osgeiddig drwy Baker Street, a Villiers Street,
cyn troedio’u twmpath parhaus
yn Grays Inn Road.
Ac yn oes y trilby a’r hetiau cloche,
hel pres ar ddrws Young Wales oedd mamgu,
pan rwygodd docyn ‘nhadcu, ac yna cyd-stepio oes.
Yn ystod gormes y blitz a’r mwgwd nwy,
llety milwyr fu yma,
ond roedd y ddawns o hyd yn eu rhyddhau.
Ddegawd wedyn, yn y bwlch rhwng Brylcreem a’r bee-hive,
byddai’r merched yn ymfyddino ar y dde,
a’u hewinedd yn goch y ddraig;
a’r dynion yn hel ar y chwith –
cyn symud yn don ar draws y llawr
a sgubo’r rhai fu’n gwenu ar eu sgidiau, i ganol y ddawns;
byddai’r tulle a’r taffeta’n troelli,
a ‘nhad a mam yn eu plith,
nes i’r llawr agor ei geg eto, a’r clwb yn cysgu.
Daeth fy nhro innau wedyn,
rhwng flares, a theis two-tone,
a dysgais fod y ddawns yn fwy na hyfforddi traed;
roedd yma wahanol gyweiriau: – ’steddfodau;
drama; corau; “’as ’e wedi talu for the bara?”
– i gyd yn gymysg ar ein gwefusau.
Ac felly ymlaen, i ‘mhlant, a phlant fy mhlant –
cenhedlaeth newydd o chwerthin,
a rhannu cyfeillach casgenni amgen.
O’r foxtrot i’r twist a’r twerk, mae’r ddawns yn parhau,
yn galeidosgôp patrymau newydd,
a lliwiau’r hen wlad yn dirwyn drwyddi’n dragywydd.
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
(i ddathlu canmlwyddiant Cymdeithas Cymry Llundain, 21.10.20)