Dewislen
English
Cysylltwch

Roedd seti’r bws yn dal gwres ola’r ha’

wrth fynd o Cerrig i Lanrwst –

ond dim ond dechrau’r daith oedd hyn;

o foelni Uwchaled at lwydni’r dre;

o fwrlwm petrus Nant Hendre Bach,

a ‘stafelloedd hamddenol yr ysgol gerllaw,

at goridorau’r ysgol sir,

a llif hyderus Afon Conwy…

*             *             *

Roedd hi’n odyssey bymtheg milltir a mwy

o Cerrig i Lanrwst,

o fro fy mebyd at fyd yr iaith fain…

Nid oedd modd mynd nôl a mlaen;

rhaid aros, ddydd Llun tan ddydd Gwener, yn y dre –

merch un ar ddeg mewn lojings unig.

Mewn erbyn hanner wedi saith bob nos;

swpera hefo dynes nad oedd yn dylwyth,

wrth fwrdd lle roedd sgwrs ar rations

a hithau’n gwylio’r bara a’r cig fel barcud;

yna noswylio; ceisio cysgu

rhwng cynfasau oer.

A gwichian tŷ diarth

fel sws nos da…

*             *             *

Nôl a ‘mlaen yr euthum yn wythnosol,

nes dwyn rhyddm newydd i ‘myd;

ac aeth boreau Llun yn llai o rwyg,

am fod un cymwynaswr gen i

ar y bws i Lanrwst bell,

a’i groeso mor barod a’r tafod tocynnau

a weindiai o’i beiriant.

Ac roedd yntau, (William Jones, condyctor)

yn fodlon ymdroi ymhen y daith,

cyn i’r bws fynd ôl am Cerrig.

Prynai sawl panad i hogan unig

ac roedd blas y sgwrs yn aros

ymhell ar ôl gwagio’r cwpan,

a’i ail-soseru  – tan y tro nesa’…

*             *             *

Daeth amser imi ddilyn yr afon i’r môr,

a’r tro hwn ‘doedd dim dychwelyd i fod,

wrth fwrw gwreiddiau’n araf, ger y lli,

ac arfer â thonnau parhaus yr iaith fain…

 

Ond wrth wynebu troeon yr yrfa,

deuai atgof weithiau

am y bws erstalwm o Cerrig i Lanrwst,

yn tuchan drwy’r gêrs

wrth slywio’i ffordd heibio Padog;

 

deuai atgof am fy nghymwynaswr gynt,

William Jones, a’r bws ar fore oer

â’i ffenestri’n angerdd i gyd.

 

Ces i deligram ganddo, cofia,

y diwrnod priodais dy dad;

a bûm innau yn ei g’nebrwng yntau

i gynnig rhyw goffâd amdano

ac am fendith yr holl baneidiau

a g’nesodd fy nghalon gynt…

*             *             *

Mae trigain mlynedd a mwy

ers ‘mi ddechrau trigo fan hyn,

yn sŵn y môr, ymhell o sŵn y nant.

 

Dwi wedi hen gyrraedd –

ac eto heb adael chwaith;

mae’r hen fro â’i afael ynof o hyd.

 

Roedd y bws erstalwm

yn mynd o Cerrig i Lanrwst –

ond mae’r siwrnai yn parhau…

 

Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru

(Dyma gerdd a gomisiynwyd gan Ffrindiau Darllen, rhaglen gyfeillio a ddyfeisiwyd gan The Reading Agency ac sy’n cael ei arwain yng Nghymru gan Llenyddiaeth Cymru. Wedi’i gyflwyno mewn partneriaeth â llyfrgelloedd cyhoeddus, cymunedau lleol a sefydliadau gwirfoddol, bwriad y cynllun yw galluogi, cyfranogi ac ymgysylltu pobl hŷn a phobl sydd â dementia a gofalwyr trwy sbarduno sgyrsiau wrth ddarllen.)

Nôl i Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru 2016 – 2022