Dod at ein coed
Mae’r ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn anodd. Rydym i gyd wedi gorfod aberthu, ac mae llawer ohonom wedi colli ffrindiau a theulu.
Wrth i ni nodi dwy flynedd ers y clo mawr, dewch i ni gofio am y rhai fu farw drwy wrando ar y gerdd bwerus hon gan @iforapglyn pic.twitter.com/P4IRyAYIhT
— Mark Drakeford (@PrifWeinidog) March 23, 2022
Beth yw ein dyddiau ond cawod dail?
A llynedd yn hydref affwysol o hir…
Heddiw mae heulwen lem
yr heb-fod-eto gwanwyn
yn gwynnu sgerbydau’r bedw
yn erbyn awyr boenus o las.
A down yma,
gan sathru clicied y manfrigau…
ac yna, ymlonyddu,
gan anadlu hefo’r coed…
Bydd deilen yn disgyn;
yn troelli a fflantio;
a ninnau’n ymuno, gan bwyll, yn ei chylchoedd,
nes nofio mewn atgofion.
Gallwn ail-gyfannu yma,
lle mae’r ffin yn denau
rhwng gwreiddiau’r pridd, a brigau’r gwynt,
rhwng corff ac enaid…
A bydd y derw cyn hir
yn hwylio’r tymhorau,
yn taenu’u gogoniant
drwy’r eglwysi gwyrdd,
yn gogrwn haul
i’r cysgodion islaw.
A’n galar yn gwisgo lliwiau newydd,
am fod rhaid…
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
(23.3.21 – cyhoeddwyd fod dwy goedlan goffa i’w plannu, i gofio’r rhai a gollwyd i COVID yng Nghymru.)