Caerdydd 3.6.17
Sarete sempre
i nostri fratelli e sorelle europei
Siaradwn â’n gilydd
mewn lliwiau gwahanol,
a rhwng banllefau’r soseri,
cymeradwyaeth cwpanau
a hisian stêm llond stadiwm,
mae ein dinas
fel caffi cyfandir cyfan.
A’n lleisiau fel tyllau haul
mewn coedwig tywyll…
Siempre seréis
nuestros hermanos y hermanas europeos
mae’n croeso ni yma, yn aros ‘run fath…
Real v Juve 3.6.17
Tydi’r bienvenido ddim yn newydd yma;
rhannwn yr un cyfenwau;
Esteban, Zamora;
mor Gymreig â Dowlais, neu Abercraf.
A’r un fu’r benvenuti
i’r Bracchi, Sidoli, Calzaghe;
nhw sodrodd eu tricolore
yng nghalon ein baner ni.
A chan y rhannwn gymaint
o hanes, doed a ddêl,
mi rannwn ein harwyr hefyd –
John Charles a Gareth Bale!
Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
(Dyma ddwy gerdd ar gyfer Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA a gynhaliwyd yn Stadiwm Genedlaethol Cymru, Caerdydd, ar 3 Mehefin 2017)