Ffydd
(Tŷ Newydd yn 30)
“edges are where meanings happen” – Christopher Meredith
Yma cawn encilio o’r byd,
ar ororau’r tir a’r tonnau;
mewn tŷ hen, ar odre hanes,
a’r coed yn anwes amdano.
Down yma’n gymdeithas meudwyon
i chwilio’n heneidiau lleyg,
i ail-gyfryngu’r synhwyrau oll,
i ymollwng i ryddm y creu…
Ac yn y ffreutur, bydd syniadau
yn ffrwtian o gwmpas bwrdd;
bydd straeon yn codi fel bara i’r hirbryd;
a cherddi fel cwrw, i dorri ein syched.
Myfyriwn wedyn, mewn tŷ gwydr geiriau,
chwynnu rhwng ein brawddegau,
didoli llinellau, a’u hail-blannu
(nid ydyw wastad yn hawdd).
Ac yn y llyfrgell, cyd-ganwn â’r urddedig rai;
sancteiddiwn ein horiau â gweddïau inc
ac yna meudwyo…
i geisio ymylon ein hunain,
a dal y dwyfol o’r newydd, mewn gair…
Oherwydd, i’r cwfaint seicadelig hwn,
y down i feithrin ein ffydd;
i gael ein dyrchafu, cyn mentro i’r gell,
lle meiddiwn ddychmygu
– ac hwyrach methu –
ac yna, methu’n well…