Dewislen
English
Cysylltwch

(i Gillian Clarke, 31.5.16) 

 

Bocs tŵls a ddaeth 

yn ddienw at fy nrws 

Ac ynddo cefais gylleth naddu cerddi,

hefo rhybudd rhag slap wen yr Awen; 

morthwyl a hoelion dychymyg, 

er mwyn pedoli ‘mhrofiadau; 

a lle traws ar gyfer cyfieithu, 

hefo lle i ddeuddyn gyd-dynnu. 

 

Canys Taliesin o focs tŵls oedd hwn, 

a’r arfau trwm fel dryw bach o ysgafn i’m llaw, 

yn sgwarnog at bob rheidrwydd, 

o’r syniadau beichiog fel hadau beics, 

i’r rhathell smwddio llinellau, 

neu’r sbaneri o gwpledi 

sy’n llacio pob deall. 

 

Ar lafn neu garn pob un o’r tŵls 

ysgythrwyd llythrennau G.C. 

A chanaf yn awr i’w perchennog, 

am eu rhannu mor hael â mi … 

 

Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru

(Dyma gerdd gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn i gyfarch Gillian Clarke wrth i’w chyfnod fel Bardd Cenedlaethol Cymru ddod i ben ac i Ifor gymryd yr awennau. Gwahoddwyd Ifor yn 2017 i anfon neges a cherdd i gyfarch Cynhadledd Brydeinig ar Lythrennedd wrth iddyn nhw ymweld â Chaerdydd a dewisodd greu fideo o’r gerdd hon.)

Nôl i Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru 2016 – 2022