‘Gwnewch y pethau bychain’
A Gwyl Ddewi’n ochneidio tua’r ail haf gwag,
‘cymuned’ yw ein henfys drwy smwclaw covid;
y cwlwm sydd ryngom a’r cilcyn hwn o ddaear
wrth inni geisio ‘gwneud y pethau bychain’
achos bod yn hynafiaid cyfrifol yw ein gwaith
dros y cilcyn hwn o ddaear – a’r cilcyn hwn o iaith…
Lockdown’s not for the loquacious
yn Saesneg, na’r Gymraeg;
mae pob cyfathrach lafar ar i lawr,
and thus, language is lost,
yn cilio fesul ‘da bo’ betrus, o ben draw’r ardd,
fesul sws wedi’i feimio drwy’r ffenest,
a fesul gair heb ei arfer…
Ond bydd modd eu hadfer, fesul un
os ‘gwnawn y pethau bychain’…
Achos ni biau’r Gymraeg, yn rhugl ai peidio,
mae’i blas ar bob taith from Bargoed to Beddau,
Rhostyllen to Rhydymwyn,
with Lowri, Rhys or Nia.
Nid iaith ddirgel mo hon,
ond un a aeth dros gof,
felly, ‘gwnawn y pethau bychain!’
– give your Welsh a cwtsh, bant â ni, dim problem,
let’s start each email ‘Annwyl Syr neu Fadam’,
let’s have ‘National Diolch yn Fawr Week’
and ‘Welsh on Wednesdays’ – why not?
‘Gwnawn y pethau bychain’ (‘di o’m yn gofyn lot)
ac ailgodwn yn amgenach
yng ngweriniaeth ein gwirionedd,
dan enfys newydd o eiriau amryliw
and you only need saith to make a start…
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
(Comisiynwyd gan BBC Cymru Wales i nodi Dydd Gwyl Dewi 2021 )