Gwyn fy myd?
(i Paulette Wilson, Anthony Bryan… ac Amelia Gentleman)
Gwyn fy myd, wrth osgoi’r aflwydd,
yn gaeth ac eto ddim,
wrth droedio deng mil o gamau
ar gyrion fy nhre.
A cherddaf yr hen lwybrau â llygaid newydd,
nes ail afael yn iaith tymhorau
a medru cyweirio rhwng sgwrs ara’ ara’
y mynydd pell,
a pharabl sydyn y cloddiau.
Gwyn fy myd,
a dim ond drumkit adennydd colomen
i darfu ar fy heddwch. Dyna ‘mraint…
ond gall newid ar amrantiad.
Achos nid fama ces i ‘ngeni na ‘magu
(er mai fa’ma dwi’n byw
hefo ‘mhlant honedig);
‘sgin i’m prawf ‘mod i’n Gymro;
mai fa’ma dwi ‘di gweithio
bob un o’r deugain mlynedd dwytha.
Ond… ‘sneb yn fy herio
â iaith front fel’na…
Felly, gwyn fy myd.
A diolchaf…
…na cha’i mo nadu
rhag cael ‘y nhrin mewn ysbyty,
er bod ‘yn stamp wedi’i dalu
ers cyn geni’r sawl
sy’n gwarafun imi’r hawl.
Diolchaf
na cha’i mo ‘ni-swyddo,
na ‘nhroi allan o’n nhŷ;
na cha’i mo’n alltudio
i ddinas sydd ddim yn fy nghofio;
na cha’i mo ‘ngharcharu
ar gyrion maes awyr,
gan rai sy’n gwneud celwydd o ‘myd.
Ond…
ond…
gwyn ein byd
pan na allwn gerdded o’r tu arall heibio;
pan fo’r rhod yn troi, yng nghalon pob tre,
a rhodiwn hen lwybrau â llygaid newydd,
cyd-droedio drwy’r trwch,
drwy fwd y gaea,
nes cerdded hafau newydd i’n hiaith,
nes ailgodi yn amgenach,
nes byw mewn lliw,
nid gweld mewn du a gwyn.
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
(Diwrnod Windrush, 22.6.20. Comisiynwyd gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru fel rhan o gyfres Cerddi AmGen ein Prifeirdd ar gyfer wythnos #SteddfodAmGen 2020)