Beth yw Eryri?
Symffoni aml-synnwyr;
bydd porffor y grug yn cyhoeddi
ymherodraeth yr haf;
a glas slei y llwyni llus
yn wledd i’r ymwelydd craff.
Ac wedi oglau’r rhedyn gwyrdd
yn crasu yn yr haul,
neu bersawr tamp nodwyddau pîn
yn stwnsh dan draed,
daw’r nodau annisgwyl;
sioc oren y criafol;
neu’r creigiau cwarts
fel cannwyll corff, drwy’r niwl.
Mae hon yn symffoni flwyddyn gron…
Ble mae Eryri?
I rai, mae’n rhan o’n torriad;
bodola ’mhell tu hwnt i ffiniau’r Parc
(sy’n edliw i’r chwarelwyr gynt,
’wnaeth oes iâ o wahaniaeth
o fewn cwta tair cenhedlaeth)
Mae’i ‘amlinell lom’
o dan ein croen fel tatŵ…
Be welwn yn Eryri?
Weithiau mae’n swil,
cyn ymryddhau o’r niwl…
ond cadeirlan yr ysbryd sydd yma;
bod yn fan hyn sy’n bwysig,
a braint ychwanegol yw ‘gweld’…
A phan ddistawo
morthwylion ein c’lonnau ymhen y clip,
rhaid gwrando; a’r glaw mân
yn berlau ar fargod ein haeliau.
Cawn adnabod iaith y gwynt,
a bwrlwm y nant
sydd ond yn codi’i llais
ar ôl glaw, neu ddadmer y gwanwyn;
dyma’r unigeddau sy’n ein dyrchafu,
a pha ots os na ‘welwn’ heddiw –
pan fo modd inni fwrw ein hunain
dros ddibyn dychymyg,
nes codi fel hedydd o’r grug;
piltran fel gwenynen
drwy flodau’r foment,
neu hofran drwy fachlud
y gelltydd oes oesoedd,
fel tylluan Cwm Cowlyd gynt.
Pwy biau Eryri?
Neb. Nid y ffarmwr pum-cenhedlaeth
a’i ddefaid fel rhuban drwy wal y mynydd,
na’r fusutor pum-munud-cynta,
a’i geg yn agored, wrth ddisgyn o’i gar.
Diflannant yn eu tro
fel y bela, a’r bryngeyrydd;
fel y diflannwn ninnau,
‘a’n lle nid edwyn mohonom mwy’…
Ond pery’r Gymraeg yma
yn hwy na ninnau oll;
hi yw cyweirnod y symffoni gudd
sy’n hwsmona’r erwau hyn.
Hi biau Eryri;
haws clywed ei llais
yn yr hydref nac yn yr haf,
ond fel y nant, byrlyma’n barhaol.
A hi yw’r ffrâm i’r drws agored hwn.
Parchwn hi ar ei haelwyd,
drwy gyfarch a diolch o leiaf.
Be gawn ni gan Eryri?
Mesur ein hunain yn erbyn mynydd;
a newid cyflymder…
Deall mai byr yw ein hamser yma,
ond mawr ein cyfrifoldeb…
yna, wrth wisgo ein hwynebau instagram
a mynd am dro, mi gerddwn yn ysgafn
gan adael dim ond ôl ein traed
i loywi’r llwybr i’n plant.
A gwenwn wrth droedio’r
cynteddau creigiog hyn
gan fod eiliadau yma,
yn gallu goleuo oes.
==============================
Ifor ap Glyn
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
(Comisiynwyd y gerdd hon i ddathlu pen-blwydd Parc Cenedlaethol Eryri yn 70)