Dewislen
English
Cysylltwch

(15.4.19)

 

Dangosodd ffordd i’n henwlad weld ei hun,
a’n herio fod y newydd er ein budd;
a’i sgwennu yntau’n gymaint rhan o’r llun
wnaeth helpu troi ein gwyll Cymreig yn ddydd.
Ac wrth nofela ym mha bynnag iaith,
wrth sgriptio cerdd, neu wrth fydryddu’r sgrîn,
yr un cwestiynu miniog gawn o’i waith,
yr un fu’r angerdd mewn sefyllfa flin.

Nid ‘byw yn llipa rhwng dwy iaith’ wnaeth hwn
ond pontio’n llachar; croesi’r ffin o hyd
o fewn ein gwlad, wrth greu ei fydoedd crwn,
yn her i’r ddeulais ganu ar y cyd.
Mae’i waith yn fodd i ni ‘ddi- ffinio’ n gwlad-
‘ysgyrion o oleuni’ a rhyddhâd.

 

Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru

( Dyma gerdd i gofio am ganmlwyddiant Emyr Humphreys ar 15 Ebrill 2019.)

Nôl i Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru 2016 – 2022