Mae angen llwyfan llachar mewn byd tywyll,
dyma lusern ein dychymyg yn y gwyll,
Ac felly bu, oes nain-a-taid yn ôl,
pan aeth hi’n nos ar Ewrop oll,
dyma Idloes yn breuddwydio gwledd o gân,
o’r tŷ yn Ystum Taf, a’r capel yn Heol Crwys
canwyd i’r heddwch newydd, fesul aria,
ac yna bu’n crwydro’r byd…
Mae’r un gwahoddiad hyfryd inni heddiw o hyd.
Cawn agor cil y drws ar gegin athrylith,
sawru’r sgôr yn ffrwtian,
yn chwythbrennau a thannau i gyd,
a ninnau yn ein blys am blatiad straeon
yn awchu blas cymhleth y llais…
y trydan, rhwng clust a chalon.
* *
Heno, mae’r dathlu’n intermezzo.
Does neb ar hyn o bryd yn telori llafariaid,
yn creu cytseiniaid fel perlau rhwng dannedd .
Ond daw atgofion soprano ac ysbrydion tenor i’n plith,
yn her inni ail-weirio’r sbarc
rhwng llwyfan, a thorf o bob lliw a llun…
Daw her inni ymestyn yr hud
sy’n cynnig blas mwy,
llywio’r meddwl gyda’r emosiwn….
Achos eleni mae modd ail-eni cyfrwng,
dysgu canu eto ar y cyd,
nes teimlo llwch y sêr ym mêr ein hesgyrn…
am fod angen llwyfan llachar, mewn byd tywyll…
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
(i ddathlu pen-blwydd Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn 75 oed, 15.4.21)