Dewislen
English
Cysylltwch

 

 

nomina si pereunt, perit et cognitio rerum

“os derfydd enwau,

derfydd hefyd dirnad pethau”.

Dwedwch felly, fawrion o wybodaeth,

ym mha fodd mae achub iaith?

 

Nid trwy’i chofnodi, na’i chysegru,

na chloi’i geiriau’n gacamwci gludiog

a lyno wrth y sawl

sy’n stelcian hyd ein cloddiau;

 

cans cadno wedi’i stwffio

yw pob Cymraeg llyfr;

ei ‘untroed oediog’ ni syfla mwy,

a’i lygaid gwydr sydd ddall.

 

Yn y llafar y mae ei lleufer;

a thafodau plant yw ei pharhâd.

 

Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru

(Dyma gerdd gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn i ddathlu dechrau Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol UNESCO 2019, yma yng Nghymru.)

 

Nôl i Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru 2016 – 2022