Clyw!
Mae’r tafod haearn hir
yn rhuglo yn ngwddw’r giât;
daw rhuthr dŵr yn wobr,
ac yna mae’i efaill yn weindio’i ateb draw;
dau gawr yn gwagswmera
ar golion hen,
cyn ymwahanu’n ufudd
o flaen trwyn cwch.
Y dŵr hwn
yw ffin fy ngorffennol
– dros un o’r pontydd hyn,
ryw ganrif borthmon a hanner yn ôl,
fe groesodd John Evans o gyfnod gynt,
gan hebrwng y merlod
i lawr o’r mynydd,
ac ymlaen i ffair Barnet bell;
y cyntaf o’n teulu
i hawlio’r ddinas â’n heniaith…
Ond daeth yn ei ôl,
fel minnau heddiw,
ail-groesi’r Iorddonen ddiwydiannol hon,
llygadu hwyrach, rhyw gob cyhyrog
oedd yn disgwyl i’w gwch â’i lond o galch,
ddyrchafu gyda’r dŵr,
cyn i’r giatiau agor
-ac mae ein hanes yn llifo
unwaith yn rhagor…
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
(Dyma gerdd gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn a luniwyd i’w darllen ar raglen Great Canal Journeys (Channel 4) pan oedd y cyflwynwyr Timothy West a Prunella Scales yn ymweld ag ardal Talybont ar Wysg. Roedd rhai o gyndeidiau Ifor ap Glyn yn byw gerllaw ac yn croesi’r gamlas yn aml wrth borthmona anifeiliaid.)