Dewislen
English
Cysylltwch

(ar achlysur ail-agor yr Ysgwrn, 6 Medi 2017)  

Am na ddeuai nôl 

O’r llaid i’r Beudy Llwyd, 

Ni safai a’i bicwarch yn ei law, 

Gan hel y gwair yn gawod haul 

I mewn drwy’r drws ucha. 

 

Ni safai rhwng y pileri chwaith 

Ynghanol llwch a gwres, 

Gan weithi awdl drom o das, 

Na chribio’i hochrau’n dwt at y gaea. 

 

A gydol y dyddiau byrion hynny, 

Ni fyddai’n mynd at fanc yr haf 

Er mwyn porthi’r gwartheg ar jaen; 

Ni welai’r tarth yn codi o’u cyrff, 

Na’u hanadl yn blodeuo’n y gwyll. 

 

Ac am na ddeuai ef yn ôl, 

Ni cherddai byth i fyny i’r tŷ, 

Lle roedd cadair wag 

Yn ei hir-ddisgwyl; 

Er iddo fydylu’i gerddi ar hyd y caeau hyn. 

 

Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru

(Dyma gerdd a gomisiynwyd gan Barc Cenedlaethol Eryri i nodi agor yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn i’r cyhoedd ym Medi 2017.)

Nôl i Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru 2016 – 2022