Medi 1914;
cnwd toreithiog o fwyar
a daeth teulu de Wynck i aros yn ‘tŷ ni.
Roedd Tada wedi darllen yn uchel
am dymor y cwymp yn eu gwlad,
y cyrff yn lluwchio
fel dail ffawydd yn y strydoedd,
a’r miloedd yn ffoi…
Ac felly’r aethom i’w cyrchu o’r orsaf,
y triawd stond ar blatfform
a’u llygaid yn troelli fel mwg;
roedd eu byd i gyd llond eu hafflau…
a mab ‘run oed a minnau, yn llaw ei fam.
A thrannoeth yn anghyfiaith,
ces f’anfonwyd i fwyara, hefo fo.
Cyd-gasglu’n fud.
Bys bigo a braichgripio
ar drywydd mwyar:
braambes
nes inni droi’n fwyarddall;
y sfferau sgleiniog yn llenwi’n llygaid
a’r rhai tewion yn ein gwatwar
o grombil clawdd a gorfrig gwrych:
te hoog!;
rhy uchel!
Chwarddasom yn ddiniwed
a’n cegau’n biws i gyd.
Dim ond wedyn y rhyfeddais
o weld y de Wyncks
yn rhoi’u gofal i’r Arglwydd
– drwy gyfrwng mwclis!
fel llinyn mwyar duon ymhob llaw!
Roedden nhwthau, meddai Tada,
yn diolch, ‘run fath â ninnau,
am fraint pob bore newydd
heb laddwyr babanod wrth law.
A dim ond wedyn y rhyfeddem
wrth wylio Mistar de Wynck
â’i gŷn main ac angerdd manwl
yn cerfio’r ‘Ffoi o’r Aifft’
i dalu am ei le…
a daeth Pentecost i’r papurau Cymreig!
Cafwyd Vlaamsch vor Belgen
yn golofn wythnosol
i adrodd hynt yr oorlog,
y rhyfel hir
oedd fel cwlwm o’n cwmpas o hyd .
A dim ond wedyn…
dros bedwar gaeaf gerwin
a’r mieri noeth fel weiran bigog
yn edliw inni’r rheswm
am ein cyd-fyw,
dim ond wedyn y byddwn innau
yn cofio am y tro cynta,
yn bramen plukken; yn mwyara.
Canys dyna pryd troes cydymdeimlad
yn weithred yn ‘tŷ ni
ac yn flaenffrwyth rhwystredigaeth
i ferch ifanc oedd yn methu’n lân
â rhoi ein hiaith ni yn dy geg.
Felly rhois i fwyar duon yn gusanau surfelys ar dy dafod syn;
a hynny bedair blynedd a hanner union,
cyn i ti a’th deulu
orfod gadael fan hyn
er mwyn codi’ch henwlad friw yn ei hôl…
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
(Dyma gerdd gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn. Rhwng 1914-18 bu chwarter miliwn o ffoaduriaid o wlad Belg yn byw dros dro ym Mhrydain. Daeth rhai i Gymru…)