Dewislen
English
Cysylltwch

(gyda diolch i R.S.Thomas)

 

Dyma “atgyfodiad pethau”…

Dan olau’r oriel, cawn hawlio’r llwyfan,

a’r casys gwydr fel props ar ein cyfer:

“Chi’n cofio’r rhain, Mamgu?”

Ac mae teulu cyfan yn agor profiad newydd

fel torth ffres.

 

Dyma atgyfodiad pethau:

– y pethau bychain hefo’r straeon mawr,

fel wats Senghenydd,

neu benglog Penywyrlod…

 

Ac yna, yn y gweithdy,

dan ddeunaw twmffat mŵg a llwch,

cawn ymdeimlo ag alcemi’r creu;

naddu carreg, turnio coed,

neu sbybio clai – nid sbio’n unig.

 

Bydd sgyrsiau’n cynnau ar bob llaw ;

Ganesh yn janglo hefo llestr Aberogwr;

ffliwt asgwrn yn cloncan â hen garafàn.

Daw ystyron newydd i stori ein gwlad…

 

…canys dyma hanfod

atgyfodiad pethau,

lle mae hanes a chwedl yn herio’i gilydd;

lle mae’r cyfoes â’r hen yn cordio’n gofiadwy.

Ac yng ngolau ffenest y gorffennol,

ail-droediwn ein drama ni;

er mwyn gweld ein hunain o’r newydd.

 

Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru

(Dyma gerdd gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn a gomisiynwyd gan Amgueddfa Cymru i ddathlu agor yr Amgueddfa Werin ar ei newydd wedd ar 18 Hydref 2018.)

Nôl i Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru 2016 – 2022