(i Gillian Clarke yn 80 oed)
Bûm dderwen yn rholio’i sgwyddau’n y gwynt
a chymylau’r machlud yn chwythu i’w hynt;
bûm lwynog celain mewn gwisg o glêr,
a rheg o ddiolch gan ffarmwr blêr.
Bûm löyn byw ar dalcen tŷ
a’i dlysni’n rhydu dan hoelion cry’;
bûm binsiad o ansoddeiriau syn
a chusan rasal ar goesau gwyn.
Bûm haul amheuthun ar wegil sant
cyn crasu’n lledr agweddau ei blant;
bûm sêr mewn cawl ar noson hwyr –
‘pwy saif i’n herbyn?’ Pwy a ŵyr?
Bûm sbectol ddydd Mercher, a hithau’n ddydd Llun,
bûm gof a dychymyg, i gyd yn un;
bûm lestr yn mynd o law i law…
bûm ddolen mewn cadwyn ddi-bendraw…
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
(Dyma gerdd gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn a gomisiynwyd gan Llenyddiaeth Cymru i ddathlu pen blwydd cyn Fardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke yn 80 oed.)