Dewislen
English
Cysylltwch

I’r strydoedd cymen hyn, daeth rhesi bechgyn
yn cadw’u patrwm megis cynt,
wrth groesi tir neb.

Mae canrif wedi ail-lasu’r tir
a chwythwyd mewn eiliadau gwaed…
rhidyllu’i ymysgaroedd… ffrwydro’i gnawd.
Bu’n gysgod i’r bechgyn rhag y storom ddur
a’r drysau tyweirch yn cau’n dawel ar eu hôl.

Daethant o strydoedd cyfyng cyffelyb.
lle bu corn y gad yn corlannu cyfeillion
ar gyfer y fenter fawr,
cyn i’r tai wincio’u bleinds
o un i un.

Heno, mae’r cerrig yn wyn fel esgyrn
a heulwen yr hwyr
yn naddu’r enwau’n berffaith,
yn bwrw cysgodion hir.

Ddaw neb i darfu ar ango’r cymdogion,
dim ond ambell ddieithryn,
o’r dyfodol nas cawsant,
yn craffu’n ddi-ddeall ar Braille yr enwau,
am fod y drysau i gyd ar glo.

 

Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru

(Dyma gerdd gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn a ysbrydolwyd gan ymweliad i fynwentydd y Somme yn 2015. Cafodd y gerdd ynghyd â’i chyfieithiad ei thaflunio ar ochr Big Ben yn Llundain fel rhan o weithgareddau Sul y Cofio, 2016.)

Nôl i Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru 2016 – 2022