Dewislen
English
Cysylltwch

 

Os t’isio plannu caneuon, 

lle gwell na’r sioe flynyddol hon, 

sy’n codi’i stondinau ar draws y dre 

i’r alawon gael ei lordio-hi? 

Ac yma bydd nodau di-ri  

yn cordio fel hen ffrindiau, 

a lliwiau aflafar y bît 

yn troi’n ara’ o gwmpas dy ben 

fel basgedi blodau ‘di bwrw’u tjeiniau… 

 

Os t’isio garddio melodïau, 

pridd cyndyn tref fel hon sydd orau 

lle gall riff ymwreiddio 

mewn craciau concrid 

ar stadau rafin, yn bafin ryddid. 

A bydd sawl cyfle am sgyrsiau-rhandir yma 

am sut mae’r lleill yn cwrteithio’u talentau, 

ac yn impio dylanwadau, 

wrth wylio lleisiau  

a chlywed eu lluniau… 

 

Ac os wyt ti 

isio tyfu tiwns, 

yn Wrecsam mae’r banc hadau; 

ac wedi tridiau gogoneddus 

yn gwrando cân y blodau, 

awn o’ma un ac oll 

hefo’n pacad newydd o syniadau 

yn barod at wanwyn nesa 

 

Ifor ap Glyn

Bardd Cenedlaethol Cymru

(i ddathlu 10fed ŵyl Focus Wales yn Wrecsam, 7-9.10.21) 

Nôl i Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru 2016 – 2022