Weldio
Bu hwn mewn llefydd poeth y diawl,
cyn ffoi,
ond bellach mae’n dewino tân
er creu.
Mae’r geiriau newydd
yn tasgu nawr fel gwreichion:
“Wedi beni”; “bant â’r cart”
ac nid gwneud trêlars
wna Mohammed ger Tregaron,
ond asio bywyd newydd
fel llen-fetel.
Ac yn y gwaith,
mae’r Gymraeg yn arcio’n llachar,
wrth i’r bois dynnu’u masgiau
a thorri bara.
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
(i Mohammed Karkoubi, ffoadur o Syria
a enillodd wobr am ei Gymraeg, Gorffennaf 2019)