Yr Awen Fusnes
Canmolwn yn awr yr awen fusnes,
y llais sydd heb eto fagu eco,
y gân fawr sydd dal ym mrest aderyn bach.
A defnyddiwn ddyddiau’r dwymyn
i fyfyrio’r ail-gychwyn,
i fapio’r posibliadau,
mynychu gweminarau,
cael ein mentora,
rhag i’r busnes newydd fynd yn rhacabobus,
rhag i’r hwch ddod ar gyfyl y siop.
Canys gweddw pob cychwyn
heb gymorth yn gefen…
ond ‘ceisiwch, a chwi a gewch’,
a dyna’n wir a gawn,
o ben arall y ffôn
neu hyd bys bant, ar y we;
dyma’r allwedd i lwyddo’n lleol.
Ac wrth hogi sgiliau
a meithrin cysylltiadau
cawn gywain profiadau newydd
i’r hen sguboriau;
mae’r awen fusnes fel arwain cân newydd
gydag eco soniarus yn dilyn ein llais.
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru / National Poet of Wales
(Dywedodd yr economegydd John Maynard Keynes yn 1946 ei fod wedi manteisio ar ‘the calm of war to reflect on the turmoil of peace’. Yn ystod cyfnod Covid mae’r niferoedd sy’n cysylltu â Menter a Busnes i drafod sefydlu busnes newydd wedi cynyddu…)