Dewislen
English
Cysylltwch

Proses Enwebu Bardd Cenedlaethol Cymru

Cwestiynau Cyffredin

Os nad ydych chi’n gweld ateb i’ch cwestiwn yma, cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth. Gallwch ddarllen ein Galwad am Enwebiadau yma.

Y Broses Enwebu

Pwy sy’n gallu enwebu?

Rydym yn croesawu enwebiadau gan

  • Sefydliadau, elusennau a grwpiau
  • Unigolion
  • Gall feirdd fynegi diddordeb yn y cyfle eu hunain hefyd

 

Sut mae gwneud enwebiad?

Gallwch wneud enwebiad trwy lenwi’r ffurflen syml hon.

Ydi enwebiadau yn gyfrinachol?

Ydyn. Ni fydd enwau’r beirdd sydd wedi eu henwebu yn cael eu rhannu’n gyhoeddus ar unrhyw gam o’r broses.

Ydi sefydliad / unigolyn yn gallu enwebu mwy nag un bardd?

Ydyn, mae modd i unigolion a sefydliadau enwebu mwy nag un bardd os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Yw faint o enwebiadau mae beirdd yn eu cael yn bwysig?

Nac ydi – bydd y panel asesu yn derbyn rhestr gyda phob enw yn ymddangos arno unwaith, wnaeth faint o enwebiadau mae’r bardd wedi ei dderbyn.

Os yw sefydliad neu unigolyn yn enwebu bardd, oes angen iddynt dderbyn caniatâd y bardd a darparu manylion cyswllt y bardd maen nhw’n ei enwebu?

Nac oes, rydym am wneud y broses enwebu mor hawdd a syml a phosib.

Bydd Llenyddiaeth Cymru yn cysylltu â phob bardd sydd wedi ei enwebu i ofyn a ydynt yn dymuno cael eu hystyried ar gyfer rôl Bardd Cenedlaethol Cymru, byddant hefyd yn cael eu gwahodd i gyflwyno mynegiant o ddiddordeb (dim mwy na 200 gair).

COFIWCH FEIRDD, mae modd cofrestru ar Restr Awduron Cymru er mwyn rhannu’ch manylion cyswllt cyhoeddus a gwneud y broses yn haws!

A fydd Llenyddiaeth Cymru’n rhoi gwybod i feirdd eu bod wedi eu henwebu?

Byddwn, ond ni fyddwn yn datgelu pwy wnaeth enwebu.

Fe wnawn ni ofyn a ydynt yn dymuno cael eu hystyried ar gyfer rôl Bardd Cenedlaethol Cymru, byddant hefyd yn cael eu gwahodd i gyflwyno mynegiant o ddiddordeb (dim mwy na 200 gair).

Beth yw amserlen y broses?
  • 20 Ionawr hyd 14 Mawrth 2022 – Y cyfnod enwebu
  • 14 hyd 28 Mawrth – Llunio rhestr fer:
    • Bydd pob enwebiad yn cael ei wirio gan staff Llenyddiaeth Cymru i sichau fod yr enwebai yn gymwys ar gyfer y rôl
    • Dau aelod o’r Panel Penodi a dau aleod o staff Llenyddiaeth Cymru yn sifftio trwy’r ceisiadau gan lunio rhestr fer ddrafft
    • Y Panel Penodi yn cwrdd i adolygu’r enwebiadau a’r rhestr fer ddrafft cyn cadarnhau rhestr fer o feirdd i’w gwahodd i ymgeisio ar gyfer y rôl
  • Wythnos 28 Mawrth – Hysbysu rhestr fer o feirdd eu bod wedi eu dethol i’w gwahodd i ymgeisio ar gyfer y rôl
  • 28 Mawrth hyd 26 Ebrill – Beirdd y rhestr fer i lunio a chyflwyno cais llawn ar gyfer y rôl (gweler isod: Beth fydd angen i’r beirdd ar y rhestr fer ei gyflwyno?)
  • Y Panel Penodi i edrych dros bob cais. Bydd rhestr fer bellach o feirdd yn cael eu gwahodd i gyfweliad.
  • 19 Mai – 1 Mehefin – Aelodau o’r Panel Penodi a staff Llenyddiaeth Cymru i gyfweld rhestr fer o feirdd
  • 6 Mehefin – Hysbysu’r bardd llwyddiannus
  • Diwedd Mehefin – Cyhoeddi enw Bardd Cenedlaethol Cymru 2022-2025

Pwy Sy’n Gymwys?

Pwy sy’n gymwys i wneud cais am y cyfle hwn?

Dyma gyfle unwaith mewn bywyd i berson eithriadol, mae’r rhinweddau sy’n nodweddu Bardd Cenedlaethol Cymru yn adlewyrchu hynny:

  • Rhaid bod Bardd Cenedlaethol Cymru yn byw yng Nghymru.
  • Rydym yn edrych am fardd â gweledigaeth bersonol gref ynghylch yr amryw ffyrdd y gall barddoniaeth drawsnewid bywydau er gwell. Mae hwn yn gyfle anhygoel, ac fel Bardd Cenedlaethol Cymru byddwn yn dod â’ch syniadau eich hunain am beth yw Bardd Cenedlaethol Cymru, a beth ddylai blaenoriaethau’r cynllun fod am y tair blynedd nesaf.
  • Rhaid i Fardd Cenedlaethol Cymru fod yn gyfathrebwr effeithiol. Rhaid i’r bardd fod â’r gallu i gyfathrebu yn uniongyrchol gydag unigolion, cymunedau a gyda phencampwyr llenyddol eraill yn ogystal â gyda’r wasg a’r cyfryngau yng Nghymru a thu hwnt. Bydd y bardd yn cydweithio’n agos gyda’r tîm yn Llenyddiaeth Cymru, yn ogystal â phartneriaid ag arianwyr
  • Rhaid i’r bardd fod ag agwedd gadarnhaol at y Gymraeg a diwylliannau ac ieithoedd eraill Cymru, a bod yn barod i weld eu gwaith yn cael ei gyfieithu i’r Gymraeg neu’r Saesneg. Bydd cyllideb gyfieithu yn rhan o’r prosiect hwn.
  • Bydd angen i’r Bardd Cenedlaethol fod â’r gallu i ysgrifennu am rychwant othemâ Bydd y Bardd Cenedlaethol yn derbyn ceisiadau niferus gan sefydliadau, elusennau a mentrau amrywiol i ysgrifennu cerddi comisiwn ar themâu penodol. Gallwch weld enghreifftiau o gerddi comisiwn Ifor ap Glyn yma.
  • Gofynnwn i’r bardd  barchu  gwerthoedd Llenyddiaeth Cymru.
  • Er mwyn sicrhau bod y prosiect yn rhedeg yn effeithlon ac yn llwyddiannus, bydd gofyn i’r bardd fod yn drefnus ac yn barod i gyfathrebu yn gyson â Llenyddiaeth Cymru a phartneriaid prosiect.
  • Rhaid i’r bardd fedru ymrwymo i leiafswm o 14 diwrnod gwaith y flwyddyn fel Bardd Cenedlaethol Cymru. Os oes gennych chi unrhyw bryderon am eich argaeledd i gyflawni’r rôl, (e.e. oherwydd cyflogaeth a/neu ddyletswyddau gofal) cysylltwch am sgwrs.
  • Byddwn yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth i’r Bardd Cenedlaethol Cymru nesaf, i’w galluogi i feithrin sgiliau a hyder mewn meysydd gwaith newydd.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein Galwad am Enwebiadau.

Oes angen gallu barddoni yn Gymraeg ac yn Saesneg?

Nag oes. Yn y gorffennol mae bardd wedi ei benodi sy’n barddoni’n Gymraeg a Saesneg ar yn ail i’r rôl hon; mae’r Bardd Cenedlaethol Cymru presennol, Ifor ap Glyn yn barddoni’n Gymraeg, a’r mwyafrif o’i gerddi comisiwn wedi eu cyfieithu i’r Saesneg.

Fodd bynnag nid yw hyn yn golygu y bydd y Panel Penodi o reidrwydd yn ffafrio bardd sy’n ysgrifennu’n bennaf yn Saesneg. Cyfieithir y cerddi comisiwn i’r Gymraeg neu’r Saesneg, a bydd gofyn i’r Bardd Cenedlaethol gydweithio gyda chyfieithydd creadigol.

Y Broses Asesu

Y Panel Asesu

Bydd amrywiaeth o unigolion sydd â diddordeb mewn llenyddiaeth a’r byd diwylliannol yng Nghymru a thu hwnt ar y Panel Penodi.

Bydd rhagor o wybodaeth am y Panel Penodi ar ein gwefan yn fuan iawn.

Sut fydd Bardd Cenedlaethol Cymru yn cael eu dethol?

Caiff pob enwebiad ei wirio gan staff Llenyddiaeth Cymru er mwyn sicrhau bod y bardd yn gymwys ar gyfer y rôl.

Bydd dau aelod o’r Panel a dau aelod o staff yn sifftio’r ceisiadau cymwys gyda’i gilydd, ac yn dethol rhestr fer er mwyn i aelodau’r Panel eu hasesu er mwyn gwahodd beirdd i ymgeisio am y rôl.

Bydd y Panel yn asesu pob cais cyflawn ar y rhestr fer ar wahân, gan ystyried bob cais yn erbyn nodweddion allweddol y rôl.

Bydd y Panel yn gwneud argymhelliad i Llenyddiaeth Cymru a bydd y Prif Weithredwr yn penodi y Bardd Cenedlaethol Cymru nesaf ym Mehefin 2022.

Beth fydd angen i’r beirdd ar y rhestr fer ei gyflwyno?
  1. Llythyr (dwy dudalen ar y mwyaf) NEU fideo hyd at 5 munud o hyd yn esbonio:
  • Eich gweledigaeth ar gyfer eich amser fel Bardd Cenedlaethol Cymru. Beth hoffech chi ganolbwyntio arno neu ei gyflawni yn ystod eich tair blynedd yn y rôl. Efallai yr hoffech chi feddwl am un brif thema i fod yn ganolbwynt arni, er enghraifft argyfwng hinsawdd; cynrychiolaeth neu iechyd a llesiant.
  • Enghreifftiau o’r math o brosiectau yr hoffech eu datblygu.
  • Pam rydych chi’n dymuno cyflawni’r rôl?
  • Pam eich bod chi’n ymgeisydd addas ar gyfer y rôl?

 

2. Tair cerdd yr ydych wedi’u hysgrifennu sy’n dangos eich addasrwydd i fod yn Fardd Cenedlaethol Cymru (ysgrifenedig neu fideo).

 

3. CV awdur.

4. Ffurflen Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth (ar gael yma).

Beth sy’n digwydd os ydw i’n cyrraedd y rhestr fer ond yn aflwyddiannus?

Bydd gan niefer fechan o staff Llenyddiaeth Cymru fynediad at eich cais. Yn unol â’n polisi o adnabod talent, a chyfeirio at ffynonellau eraill, efallai byddwn yn cysylltu â chi ynglŷn â chyfleoedd sy’n berthnasol i’ch cais, eich gwaith creadigol a’ch profiad. I helpu Llenyddiaeth Cymru gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data (GCPR), a wnewch chi gwblhau’r darn perthnasol ar ddiwedd y ffurflen gais, er mwyn rhoi gwybod i ni os nad ydych eisiau i Llenyddiaeth Cymru gysylltu â chi ynghylch cyfleoedd yn y dyfodol.

Rôl Bardd Cenedlaethol Cymru

Beth yw amodau’r rôl?
  • Y ffi craidd ar gyfer y rôl yw £5,600 y flwyddyn, ynghyd â threuliau (sy’n cyfateb i oddeutu 14 diwrnod o waith). Caiff y bardd gyfle i roi ei stamp ei hun ar y rôl, serch hynny mae rhai ymrwymiadau a gweithgaredd craidd yn y cytundeb. Bob blwyddyn bydd gofyn i’r bardd:
    • Greu pedair cerdd wreiddiol
    • Cymryd rhan mewn pedwar digwyddiad swyddogol
    • Cyflawni gweithgareddau hyrwyddo a marchnata gan gynnwys ysgrifennu erthyglau
    • Trafod a chynllunio gyda staff Llenyddiaeth Cymru,
    • Gweinyddu a threfn ei amserlen, cadw mewn cyswllt cyson â staff Llenyddiaeth Cymru
    • cwblhau gweithgarwch monitro a gwerthuso rheolaidd.
  • Bydd cerddi comisiwn y Bardd Cenedlaethol Cymru newydd yn cael eu cyfieithu i’r Gymraeg neu’r Saesneg – yn dibynnu ar brif iaith gwaith y Bardd Cenedlaethol – a bydd gofyn i’r bardd gydweithio gyda chyfieithydd creadigol.
  • Mae’n debygol iawn y bydd cynigion am gomisiynau pellach yn dod i law, a gwahoddiadau i arwain ymgyrchoedd a phrosiectau cenedlaethol eraill wedi eu llywio gan Llenyddiaeth Cymru. Byddai unrhyw waith ychwanegol yn cael ei gytundebu ar wahân.
Beth yw gofynion y rôl?
  • Bydd y Bardd Cenedlaethol Cymru nesaf yn cychwyn yn eu rôl o ddiwedd Mehefin 2022 ymlaen.
  • Dyma rôl dair blynedd o hyd, tan haf 2025.
  • Bydd rhaid gallu ymrwymo i o leiaf 14 diwrnod gwaith y flwyddyn i weithio fel Bardd Cenedlaethol Cymru; dyma isafswm y rôl ond mae prosiectau a chomisiynau ychwanegol mewn blwyddyn fel arfer. Os oes gennych chi unrhyw bryderon am eich argaeledd (e.e oherwydd cyflogaeth a/neu ddyletswyddau gofal) i gyflawni’r rôl, cysylltwch am sgwrs.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein Galwad am Enwebiadau.

Nôl i Bardd Cenedlaethol Cymru