Dewislen
English
Cysylltwch

Y Beirdd

Aneirin Karadog

EnilloddAneirin KaradogGadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau yn 2016 gyda dilyniant o gerddi ar y themaFfiniau’. Mae’n aelod o dîm Y Deheubarth yn Ymryson blynyddol y beirdd ac mae wedi ennill sawl gwobr am ei gerddi caeth: Ysgoloriaeth Emyr Feddyg yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004, Cadair yr Urdd yng Nghaerdydd 2005 a chategori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn ddwywaith gyda’i gyfrol gyntaf O Annwn i Geltia (Cyhoeddiadau Barddas, 2012) ac yna eto gyda’i ail gyfrol Bylchau (Cyhoeddiadau Barddas, 2016). Mae’n cyd-gyflwyno a chyd-gynhyrchu podlediad Barddol Cymraeg gydag Eurig Salisbury o’r enw Clera, gyda phenodau newydd yn fisol ers Hydref 2016. Yn 2019 cyhoeddodd gyfrol arall o gerddi, Llafargan (Cyhoeddiadau Barddas). Aneirin oedd Bardd Plant Cymru 2013-15. 

Dani Schlick

O’r Almaen yn wreiddiol daeth Dani i Gymru yn 2015 i fyw yma ac i ddysgu’r Gymraeg. Mae hi bellach yn byw ym Methesda, Gwynedd ac yn gweithio i Fentrau Iaith Cymru yn cydlynu prosiectau cenedlaethol. Mae hi’n aelod o Fenter Iaith Bangor a Llety Arall, menter gymunedol yng Nghaernarfon. Mae Dani yn trefnu digwyddiadau yn y Gymraeg sy’n rhoi cyfle i bobl ymarfer a mwynhau’r iaith.  

Mae gwaith barddonol Dani yn bennaf yn cynnwys cerdd a enillodd wobr gyntaf yn Eisteddfod y Dysgwyr 2017 a chyfieithiadau gwahanol o gerddi Ifor ap Glyn i’r Almaeneg.  

Hammad Rind

GanedHammad Rindym Mhwnjab, Pacistan, ac ar hyn o bryd mae’n byw yng Nghaerdydd. Disgwylir i’w nofel gyntaf, Four Dervishes, sy’n nofel ddychan cymdeithasol wedi’i seilio ar dastan gan y bardd Persiaidd, Amir Khosrow, gydag elfennau o realaeth hud, gael ei chyhoeddi gan Seren yn ystod haf 2021. Mae wedi arwain nifer o weithdai ysgrifennu gan gynnwys ar gyfer Gŵyl Farddoniaeth Seren ac un arall ar adrodd straeon i blant yng Nghaerdydd. Mae ei waith wedi ymddangos mewn nifer o gyhoeddiadau gan gynnwysThe Madras Courier, James Joyce Broadsheet, Y Stamp a Porridge Magazine. Mae Hammad yn siarad naw iaith, ac mae’n ymgorffori elfennau o’r gwahanol ieithoedd hyn yn ei waith. 

Ifor ap Glyn

Wedi’i eni a’i fagu yn un o Gymry Llundain, mae Ifor ap Glyn yn fardd, cyflwynydd, cyfarwyddwr ac yn gynhyrchydd sydd wedi ennill nifer helaeth o wobrau yn y meysydd amrywiol hyn. Yn Fardd Cenedlaethol Cymru (2016 – 2022) mae hefyd yn Brifardd sydd wedi ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith – y tro cyntaf yn 1999 ac yna Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau 2013. Ifor oedd Bardd Plant Cymru rhwng 2008 – 2009. Mae Ifor wedi cynrychioli barddoniaeth Gymraeg ledled y byd yn yr iaith Gymraeg a Saesneg, yn fwyaf diweddar yn Camerŵn, Lithwania, China, Gwlad Belg, yr Almaen ac Iwerddon. 

Mae Ifor yn byw yng Nghaernarfon, ef oedd un o sylfaenwyr Cwmni Da – cwmni cynhyrchu teledu a ffilm annibynnol. Mae wedi ennill sawl gwobr BAFTA Cymru am ei waith gan gynnwys y cyfresi Lleisiau’r Rhyfel Mawr a Popeth yn Gymraeg. 

Meltem Arikan

Awdur Twrcaidd-Gymreig yw Meltem Arikan. Adwaenir Arikan am ei nofelau, dramâu, cerddi ac erthyglau  sy’n cynnwys beirniadaeth lem o gymdeithas a llais di-ofn a di-flewyn-ar-dafod. 

 

Mae Arikan wedi ysgrifennu 11 llyfr, gan gynnwys naw nofel a phum drama. Cafodd ei phedwaredd nofel Yeter Tenimi Acıtmayın (Stop Hurting My Flesh), ei gwahardd yn gynnar yn 2004 gan y Pwyllgor i Ddiogelu Plant a Phobl Ifanc rhag Cyhoeddiadau Anllad. Codwyd y gwaharddiad ar ôl gwrthwynebiad, a dyfarnwyd “Gwobr Rhyddid Meddwl a Lleferydd 2004” i Arıkan gan Gymdeithas Cyhoeddwyr Twrci. Mae hi wedi derbyn sawl gwobr a chafodd ei chynnwys ar restr fer y Wobr Rhyddid Mynegiant yn 2014 yn ôl Mynegai ar Sensoriaeth am ei drama ‘Mi Minor’, a honnodd awdurdodau Twrcaidd oedd yn ymarfer ar gyfer gwrthdystiadau Parc Gezi yn 2013. Fe wnaeth eu hymgyrch casineb a ddilynodd, a sbardunwyd gan gyfryngau a noddid gan y wladwriaeth, ei gorfodi i adael Twrci i ddechrau byw yng Nghymru. Yn 2019 derbyniodd llys Twrci Dditiad Gezi yn ceisio dedfrydau oes i 16 o bobl, gan gynnwys Arikan. 

Shara Atashi

MaeShara Atashiyn dod o Aberystwyth. Mae hi’n gyfieithydd ac yn awdures sydd â diddordeb mewn gwaith ffeithiol greadigol. Cafodd fagwraeth lenyddol, gan mai ei thad oedd y diweddar Manouchehr Atashi o Iran: bardd, athro llenyddiaeth a golygydd ar gylchgrawn darlledu cenedlaethol Iran. Yn 2016, ymunodd â Chylch Awduron Peterborough a dechrau mynd ati i rannu ei barddoniaeth drwy gyhoeddiadau lleol ac mewn blodeugerdd. Mae Shara ar hyn o bryd yn gweithio ar lyfr barddoniaeth dwyieithog, sef prosiect ar y cyd lle mae’n cyfieithu rhai o weithiau ei thad i’r Saesneg, a bardd arall yn eu cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg. Mae disgwyl i’r gyfrol gael ei chyhoeddi eleni. 

Nôl i Swdocw Iaith