Dewislen
English
Cysylltwch

Beirdd Plant y gorffennol

Casi Wyn
(2021-23)
Mwy
Gruffudd Owen
(2019-21)
Mwy
Casia Wiliam
(2017-19)
Mwy
Anni Llŷn
(2015-17)
Mwy
Aneirin Karadog
(2013-15)
Mwy
Eurig Salisbury
(2011-13)
Mwy
Dewi Pws
(2010-11)
Mwy
Twm Morys
(2009-10)
Mwy
Ifor ap Glyn
(2008-09)
Mwy
Caryl Parry Jones
(2007-08)
Mwy
Gwyneth Glyn
(2006-07)
Mwy
Mererid Hopwood
(2005-06)
Mwy
Tudur Dylan Jones
(2004-05)
Mwy
Ceri Wyn Jones
(2003-04)
Mwy
Menna Elfyn
(2002-03)
Mwy
Mei Mac
(2001-02)
Mwy
Myrddin ap Dafydd
(2000 - 01)
Mwy
Casi Wyn
(2021-23)

Mae Casi Wyn yn wyneb cyfarwydd yng Nghymru a thu hwnt fel cantores a chyfansoddwraig o ardal Bangor. Mae ei chaneuon Aderyn, Dyffryn, ac Eryri yn cael eu chwarae’n gyson ar orsafoedd radio ledled Prydain. Mae Casi hefyd yn un o sefydlwyr gwasg annibynnol a chylchgrawn Codi Pais, sydd yn annog lleisiau newydd ac amrywiol. Yn 2021 fe ryddhaodd lyfrau dwyieithog cerddorol i blant, Tonnau Cariad a Dawns y Ceirw. Dangoswyd ei ffilm fer gerddorol animeiddiedig Dawns y Ceirw ar S4C ar noswyl Nadolig 2020.

Yn ystod ei chyfnod fel Bardd Plant Cymru, aeth Casi ati i annog plant i gyfansoddi barddoniaeth am yr hyn sydd yn bwysig iddyn nhw - o'u hardaloedd lleol. pêl - droed, eu cymunedau, natur ar eu stepen drws, playstation, a Beyonce!

Cau
Gruffudd Owen
(2019-21)

Daw Gruffudd Owen o Bwllheli ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Derbyniodd ei addysg gynnar yn ysgolion Cymerau, Glan y Môr, a Choleg Meirion Dwyfor Pwllheli, cyn mynd yn ei flaen i astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bu’n gweithio am ddeng mlynedd fel golygydd i’r rhaglen deledu Pobol y Cwm, ond mae bellach yn gweithio ar ei liwt ei hun fel awdur a golygydd llawrydd.

“Mae barddoniaeth wastad wedi bod yn ran bwysig o ‘mywyd i ers i mi fod yn sgriblo cerddi gwirion yng nghefn fy llyfr mathemateg yn yr ysgol gynradd! Does dim yn rhoi mwy o fwynhad i mi na gweld llond ystafell o blant yn chwerthin wrth wrando ar gerdd. Mae cyd-wrando ar farddoniaeth yn brofiad sydd yn ein hasio ni fel cymuned. Os ydi'r Gymraeg am ffynnu ymhlith y genhedlaeth nesa', mae'n rhaid i'r genhedlaeth honno brofi'r iaith yn ei holl ogoniant doniol, chwareus, unigryw a chyfoethog.”

– Gruffudd Owen
Mae wastad wedi mwynhau darllen ac ysgrifennu barddoniaeth ac ysgrifennu creadigol o bob math. Yn 2009, enillodd Fedal Ddrama Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd, ac yn 2018, enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol, eto ym Mae Caerdydd. Cyrhaeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Hel Llus yn y Glaw (Cyhoeddiadau Barddas, 2015), restr fer categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2016.

Mae’n fardd sydd wedi hen arfer perfformio ei waith fel aelod o dîm Talwrn y Ffoaduriaid, ac mae’n un o drefnwyr nosweithiau Bragdy’r Beirdd yng Nghaerdydd. Mae hefyd wedi ennill sawl stôl stomp a stôl stomp plant. Yn ei amser hamdden mae Gruffudd yn mwynhau canu, beicio, dringo a jyglo.

Cau
Casia Wiliam
(2017-19)

Cafodd Casia Wiliam ei chyhoeddi fel Bardd Plant Cymru 2017-19 mewn seremoni yn Eisteddfod yr Urdd Ogwr, Taf ac Elái 2017.

Yn un o bedwar o blant, ac yn ferch i awdur, mae Casia bob tro wedi mwynhau bod yn un o griw, a chael gwrando ar stori. Ers yn blentyn mae ysgrifennu a darllen wedi bod yn rhan mawr o’i bywyd, a cafodd y diddordebau hynny eu hannog gan athrawon gwych yn Ysgol Nefyn, Ysgol Botwnnog ac yna Coleg Meirion Dwyfor. Aeth Casia yn ei blaen i astudio gradd mewn Saesneg ac Ysgifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth, ble daeth dan ddylanwad beirdd megis Tiffany Atkinson a Damian Walford Davies.

Mae wedi addasu dwy o nofelau Michael Morpurgo i’r Gymraeg – Ceffyl Rhyfel (Gwasg Carreg Gwalch, 2010) a Y Llew Pili Pala (Gwasg Carreg Gwalch, 2014) – ac wedi cyhoeddi gwaith gwrediddiol yn y Gymraeg gan gynnwys nofel i blant yn eu harddegau o’r enw Sgrech y Môr (Gwasg Y Lolfa, 2014), dwy stori fer o’r enw Arthur yn Achub y Byd a Pedrig y Pysgodyn Pengaled (Gwasg Carreg Gwalch, 2015), ac un stori yng nghasgliad Straeon Tic Toc (Gwasg Gomer, 2016).

“Dwi’n meddwl bod sgwennu yn gwneud lles i blant a phobl ifanc (ac oedolion a dweud y gwir!). Mae’n ffordd saff iddyn nhw fynegi a thrafod eu dyheadau a’u breuddwydion, yn ogystal â’u hofnau a’u gofidion. Mae hefyd yn ffordd dda o gael plant a phobl ifanc i uniaethu ag eraill, ac yn ffordd wych o fagu hyder, wrth iddynt ddarllen neu berfformio eu gwaith o flaen eraill.”
– Casia Wiliam

Cau
Anni Llŷn
(2015-17)

Mae Anni yn wyneb cyfarwydd iawn i blant Cymru. Mae’n gyflwynwraig, yn awdur ac yn fardd. Ymwelodd Anni â phob sir yng Nghymru, 83 ysgol, a 10 castell yn ystod ei chyfnod fel Bardd Plant Cymru gan ddiddanu, ysbrydoli ac ymgysylltu â dros 6000 o blant. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys gweithdai, taith Siarter Iaith, sioe Cbeebies, perfformiadau yn ystod Gŵyl Llên Plant Caerdydd, dathliadau Roald Dahl 100 Cymru, creu a pherfformio sioe yng Ngŵyl Hanes Cymru i Blant, dathliadau pen-blwydd Y Senedd a phrosiect Neges Ewyllys Da yr Urdd i enwi dim ond rhai.

Cau
Aneirin Karadog
(2013-15)

Bu Aneirin yn rapiwr yn y grwpiau hip-hop Genod Droog ac Y Diwygiad. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau yn 2016 a Chadair Eisteddfod yr Urdd yn 2005. Enillodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, O Annwn i Geltia (Cyhoeddiadau Barddas, 2012), wobr categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2013, a’i ail gyfrol, Bylchau (Cyhoeddiadau Barddas, 2016), wobr categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2017. Fe lansiodd gyfrif twitter poblogaidd Bardd Plant Cymru ac fe gynhaliodd brosiectau llwyddiannus fel Y Gerdd Fawr, yn ogystal â chydweithio â miloedd o blant yn ystod ei gyfnod yn y rôl. Pan nad yw’n ymhél â’r cynganeddion mae wrth ei fodd gyda zombis, fampirod a Doctor Who. Bydd ei gyfrol newydd, Llafargan, yn y siopau o haf 2019.

Cau
Eurig Salisbury
(2011-13)

Eurig oedd y bardd cyntaf i ymgymryd â’r rôl am ddwy flynedd yn hytrach nag un. Mae’n byw yn Aberystwyth, ac mae wedi cyhoeddi llyfr o farddoniaeth i blant o’r enw Sgrwtsh (Gwasg Gomer, 2011). Yn 2012, fe ysgrifennodd Eurig sioe farddonol o’r enw Bx3 gyda dau fardd ifanc arall, Catrin Dafydd ac Aneirin Karadog. Yn 2012 hefyd fe lwyddodd Eurig gyda thri chyfaill arall sy’n barddoni i gwblhau’r her o ysgrifennu 100 o gerddi mewn 24 awr! Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Sir Ddinbych 2006, a'r Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2016 gyda'i gyfrol Cai (Gwasg Gomer, 2016). Mae bellach yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac, yn ei amser sbâr, yn cydgyflwyno ac yn golygu podlediad Clera gyda'i olynydd yn swydd y Bardd Plant, Aneirin Karadog. Mae'r holl fanylion, ynghyd â cherddi a llawer mwy, ar ei wefan: www.eurig.cymru.

Cau
Dewi Pws
(2010-11)
Cau
Twm Morys
(2009-10)
Cau
Ifor ap Glyn
(2008-09)
Cau
Caryl Parry Jones
(2007-08)
Cau
Gwyneth Glyn
(2006-07)
Cau
Mererid Hopwood
(2005-06)
Cau
Tudur Dylan Jones
(2004-05)
Cau
Ceri Wyn Jones
(2003-04)
Cau
Menna Elfyn
(2002-03)
Cau
Mei Mac
(2001-02)
Cau
Myrddin ap Dafydd
(2000 - 01)
Cau