Dewislen
English
Cysylltwch

Pan o’n i’n ifanc  

roedd twll yn yr awyr yn tyfu 

yn yr haen O-zone, 

pelydrau UV peryglus yr haul  

yn cynyddu’r effaith Tŷ Gwydr 

ac yn araf gynhesu ein byd, 

drwy nwyon CFC 

o chwistrelliad aroglus o dan ein ceseiliau. 

Ond diolch i brotocol Montreal  

daeth, yn llythrennol,  

a bob gwlad at ei gilydd 

i wella’r sefyllfa  

a bellach mae’r twll yn lleihau. 

 

Doedd neb ar y pryd yn credu  

bod gwybodaeth wahanol 

neu “ffeithiau amgen” 

yn gallu ’neud y sefyllfa yn haws i’w llyncu. 

Hwn oedd y cam cyntaf byd eang, 

dechrau ein gorymdaith tua’r gobaith 

taw gwyddoniaeth yw’r arf 

yn erbyn artaith ecolegol 

gan gwmnïau mawr y presennol 

sy’n aberthu ein dyfodol 

am bocedi llawn 

’neith suddo pawb 

i fewn i’r llanw sy’n codi. 

 

O le daw barel olew olaf y byd? 

A pryd wnawn ni ’neud y newid 

yn lle gwrando ar addewidion gwag 

y miliwnyddion 

bysa’n achosi dinasyddion 

i ddisgyn i ddyled a thlodi, 

yn gorfodi dewis rhwng  

troi mlaen y rheiddiadur 

neu gau’r llenni 

tra bod y teledu  

yn dangos bod wastad arian  

i fomio tai pobl eraill 

mewn gwledydd poeth 

yn bell, bell i ffwrdd. 

 

Gall eich gorwelion chi 

fod llawer fwy llachar  

na’r llwydni sy’n lledaenu 

o eiriau gwleidyddion gwarthus y gorffennol. 

cyn bo hir fyddech chi hefyd  

‘di cael llond bol 

o bob troad bedol 

ar ôl eich pleidlais. 

Felly codwch eich llais! 

Ciciwch, carlamwch 

cyn i ddrws y stabl gau, 

cyn i’r siawns i newid lleihau, 

cyn i frigyn y goeden olewydden 

droi’n frau. 

 

Mae’n rhaid i Ni 

rhoi’r gobaith yna i chi, 

Gen Alpha, Gen Z, 

atseiniwch y neges 

a pheidiwch gadael neb ddweud 

eich bod chi methu 

chwistrellu’r egni amgen yna  

i mewn i’ch gorwelion, 

i’ch galluogi chi 

i dywynnu’n fwy disglair 

na fflam unrhyw danwydd. 

– Siôn Tomos Owen

Nôl i Cerddi Bardd Plant Cymru