Dewislen
English
Cysylltwch
Comisiynwyd y gerdd hon gan S4C er mwyn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, 8 Mawrth 2025.

Annwyl Merch Cymru,

Dyma neges i ddweud helo.

Sut wnes di gysgu? Wyt ti wedi anadlu heddiw?

 

Dyma neges i dy atgoffa di

dy fod yn gwneud y gorau rwyt ti’n gallu,

bod hi’n iawn i boeni,

iawn i gwestiynu,

iawn i bostio’n anhysbys,

ac yn iawn i ofyn am gymorth.

 

Merch Cymru,

dyma neges yn dy ganmol di,

ti, sydd yn cario pob straen, pob craith,

ac yn deffro bob bore gyda breichiau ar agor i’r byd.

Dy ddwylo di sy’n sychu dagrau,

ti sy’n cymeradwyo,

dal llaw, tynnu’n ôl o’r dibyn;

dy freichiau di yw lloches mewn storm,

dy galon di yw’r curiad sy’n cadw’r byd yn troi.

 

Merch fferm, merch y cymoedd, merch y ddinas mawr,

merch y côr, y dosbarth, y labordy, y tîm,

ferch Cymru, dawns gymhleth y canrifoedd wyt ti,

gwaith caled cenedlaethau o famau’n

camu i’r dyfodol.

 

Mae dy harmoni’n adleisio mewn emyn,

yn adrodd stori dy chwiorydd –

stori chwerthin, crio, cefnogaeth a chadarnhad.

 

Felly merched Cymru,

dyma neges gen i.

Neges i ddweud helo,

daliwch ati,

ac i godi eich lleisiau

i ymuno â’r gân.

– Nia Morais, Bardd Plant Cymru 2023-2025

 

Nôl i Cerddi Bardd Plant Cymru