Dewislen
English
Cysylltwch
Ar 1 Mehefin 2023, fe wnaethom ni a’n partneriaid gyhoeddi mai Nia Morais fydd y 18fed Bardd Plant Cymru. Dechreuodd Nia ar ei rôl yn swyddogol ym mis Medi.

Awdur a dramodydd o Gaerdydd yw Nia Morais. Mae ei gwaith yn aml yn canolbwyntio ar  hunan ddelwedd, iechyd meddwl, a hud a lledrith. Graddiodd o Brifysgol Caerdydd gyda Gradd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol. Yn 2020, rhyddhaodd ei drama sain gyntaf, Crafangau, fel rhan o brosiect Theatr y Sherman, Calon Caerdydd.  Ar hyn o bryd, mae Nia’n Awdur Preswyl gyda Theatr y Sherman ac mae ei drama lawn cyntaf, Imrie, cyd-gynhyrchiad Cwmni Frân Wen a Theatr y Sherman yn teithio Cymru dros haf 2023. Roedd Nia yn aelod o banel beirniadu Gwobrau Tir na n-Og 2021, a hefyd yn ran o raglen ddatblygu awduron Cynrychioli Cymru yr un flwyddyn gyda Llenyddiaeth Cymru. Mae’n sgwennu ar gyfer plant ac oedolion.

Fel Bardd Plant Cymru, prif amcan Nia yw sicrhau fod rhagor o gyfleoedd i blant a phobl ifanc drafod ac ysgrifennu am bynciau sydd yn hollbwysig iddyn nhw fel cenhedlaeth, ac sy’n brin mewn llenyddiaeth Gymraeg ar hyn o bryd. Mae’n angerddol dros y ffaith fod y Gymraeg yn perthyn i bawb, dros ddathlu ein hunaniaeth ac annog parch tuag at ein hunan-ddelwedd gan gynyddu hunan-hyder.

Dywedodd Nia Morais, Bardd Plant Cymru 2023-2025: “Rydw i mor falch i fod yn Fardd Plant Cymru a ‘dw i methu aros i ddechrau! Rwy’n teimlo’n gyffrous iawn i ddychwelyd i fyd barddoniaeth ar ôl tipyn o amser i ffwrdd, ac yn ddiolchgar iawn i allu rhannu fy amser gyda phobl ifanc Cymru.

Rydw i’n caru gweithio gyda phobl ifanc — mae’n foddhaol iawn a dwi’n cael lot o ysbrydoliaeth gan weld be sy’n diddori nhw. Rwy’n caru sgwennu barddoniaeth ac yn gobeithio gallu creu gwaith gwych gyda phobl ifanc Cymru.”

Nôl i Bardd Plant Cymru