Dewislen
English
Cysylltwch

Partneriaid y cynllun

Caiff cynllun Bardd Plant Cymru ei reoli gan Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.

Llenyddiaeth Cymru
Mwy
Llywodraeth Cymru
Mwy
S4C
Mwy
Cyngor Llyfrau Cymru
Mwy
Urdd Gobaith Cymru
Mwy
Llenyddiaeth Cymru

Llenyddiaeth Cymru yw’r cwmni cenedlaethol gyda chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth.

Ein cenhadaeth yw ysbrydoli cymunedau, datblygu awduron, a dathlu diwylliant llenyddol Cymru drwy: ddarparu rhagor o gyfleoedd i bobl Cymru gymryd rhan mewn gweithgareddau ysgrifennu creadigol, a dyfnhau eu heffaith; alluogi egin awduron i achub ar gyfleoedd i fireinio a datblygu sgiliau llenyddol amrywiol; ac ehangu ac ymestyn cyrhaeddiad ac enw da awduron Cymru.

Bydd hyn yn creu Cymru sy’n grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau drwy lenyddiaeth.

Mae ein gweithgareddau craidd yn cynnwys Gwobr Llyfr y Flwyddyn, cyrsiau ysgrifennu creadigol yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Bardd Plant Cymru, menter llenyddiaeth yn y gymuned Llên Pawb, cynlluniau Ysgoloriaethau i Awduron a Mentora, Bardd Cenedlaethol Cymru, Cynllun Nawdd Awduron ar Daith a mwy.

Cliciwch yma: https://www.llenyddiaethcymru.org/ i ymweld â gwefan Llenyddiaeth Cymru i ddarganfod rhagor am ein cenhadaeth, ein heffaith a’n gweithgareddau.

Cau
Llywodraeth Cymru

Nod Llywodraeth Cymru yw cael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae hwn yn nod tymor hir, ac mae gan y system addysg gyfraniad allweddol i’w wneud er mwyn ei wireddu.

Er mwyn cyflawni’r nod, bydd angen datblygu’r cwricwlwm er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yng Nghymru yn gallu datblygu’i sgiliau iaith Gymraeg i’w defnyddio’n gymdeithasol ac mewn gwaith yn y dyfodol. Un o’r nodau allweddol o fewn strategaeth Cymraeg 2050 yw sefydlu arferion cadarnhaol o ran defnyddio’r iaith, ynghyd â chyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol.

Noda’r strategaeth bod angen cynllunio darpariaeth ar gyfer disgyblion sydd nid yn unig yn rhoi’r cyfle iddynt ddefnyddio neu ymarfer y Gymraeg, ond sy’n eu trwytho mewn agweddau cadarnhaol o safbwynt yr iaith, a fydd yn golygu eu bod yn penderfynu ei defnyddio. Cyhoeddwyd Y Gymraeg mewn addysg: Cynllun gweithredu 2017-21 er mwyn tynnu llinynnau perthnasol Cymraeg 2050 ac Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl ynghyd. Yng nghyd-destun y cwricwlwm newydd mae ymrwymiad i ddatblygu dulliau trawsnewidiol tuag at ddysgu, addysgu ac asesu’r Gymraeg, gyda’r bwriad o sicrhau cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg hyderus o fewn y system addysg statudol a sicrhau, yn y dyfodol, bod pob dysgwr yn gallu defnyddio’r Gymraeg ar ôl gadael yr ysgol.

Mae Llywodraeth Cymru yn hapus i gefnogi prosiect Bardd Plant Cymru, a thrwy’r cynllun grant i hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg, maent wedi buddsoddi’n gyson yn y Mentrau Iaith, yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, Clybiau Ffermwyr Ifanc, Merched y Wawr, Cymdeithas Eisteddfodau Cymru a’r Papurau Bro i ddarparu cyfleoedd newydd ac amrywiol i deuluoedd, plant a phobl ifanc ddefnyddio eu Cymraeg yn gymdeithasol y tu hwnt i oriau ysgol.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol hefyd o’r angen i ehangu’r cyfleoedd anffurfiol i blant a phobl ifanc er mwyn pontio’r bwlch rhwng addysg a’r gymuned ehangach. Y tu hwnt i ffiniau’r ysgol, mae’n dal i fod angen cydweithio’n agos â phartneriaid cymunedol allweddol a sefydliadau ar lawr gwlad er mwyn darparu cyfleoedd cyffrous i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i oriau’r ysgol.

www.llyw.cymru

Cau
S4C

S4C yw’r unig ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus Cymraeg. Mae S4C yn darlledu dros 115 awr o raglenni bob wythnos – o chwaraeon, drama a cherddoriaeth i ffeithiol, adloniant a digwyddiadau – ar wahanol lwyfannau, gan gynnwys y we. Mae S4C yn cynnig gwasanaethau helaeth ar gyfer plant: Cyw ar gyfer y gwylwyr iau, Stwnsh ar gyfer plant hŷn a rhaglenni ar gyfer plant a phobl ifanc yn eu harddegau. Mae'r brand digidol Hansh hefyd yn cynnig darpariaeth arloesol ar gyfer pobl ifanc.

www.s4c.cymru

Cau
Cyngor Llyfrau Cymru

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn gorff cenedlaethol sy’n ganolbwynt i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Trefnir amrywiaeth o weithgareddau i blant a phobl ifanc gan yr adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen, gan gynnwys nifer y mae Bardd Plant Cymru yn cyfrannu atynt. Mae sesiynau gyda’r bardd yn rhan o weithgareddau rownd genedlaethol y cystadlaethau llyfrau blynyddol. Mae’r bardd yn ysgrifennu cerddi i gyfarch enillwyr gwobrau Tir na n-Og ac fe gynhyrchir poster o rhai o’i gerddi’n flynyddol. Dosberthir y rhain i holl ysgolion Cymru.

www.cllc.org.uk

Cau
Urdd Gobaith Cymru

Mae Urdd Gobaith Cymru yn gorff ieuenctid gwirfoddol cenedlaethol â dros 55,000 o aelodau rhwng 8 a 25 mlwydd oed. Maen nhw’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc fwynhau profiadau trwy gyfrwng y Gymraeg a fydd yn eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol yn eu cymunedau. Mae swyddogion datblygu yn gweithio ym mhob ardal er mwyn sicrhau bod rhaglen lawn o weithgareddau yn cael ei chynnig i blant a phobl ifanc yn cynnwys clybiau wythnosol, cystadlaethau, chwaraeon, teithiau tramor a theithiau i’r gwersylloedd.

www.urdd.cymru

Cau