Dewislen
English
Cysylltwch

I wneud cais, llenwch y ffurflen gais hon drwy’r porth ar-lein. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen help arnoch i ddefnyddio’r porth, cysylltwch â ni. Bydd aelod o’r tîm yn hapus i helpu.

Bydd ein ffurflen gais yn gofyn cwestiynau i chi ar:

  • Eich cymhwysedd
  • Eich profiad ysgrifennu
  • Eich uchelgeisiau ysgrifennu
  • Pam fod y cwrs hwn yn iawn i chi

Bydd gofyn i chi hefyd gyflwyno hyd at dair cerdd neu recordiad fideo o’ch gwaith creadigol hyd at ddwy funud o hyd. Os ydych chi’n cyflwyno perfformiad fideo, anfonwch ddolen WeTransfer i post@llenyddiaethcymru.org. Bydd angen i chi hefyd lenwi ffurflen gais.Am wybodaeth ychwanegol am gymhwysedd, cyfeiriwch at y Cwestiynau Cyffredin, neu lawrlwythwch fersiwn hygyrch o’r dudalen Lawrlwytho.

I’ch helpu i baratoi eich cais, gallwch lawrlwytho’r ffurflen gais i ddarllen drwy’r cwestiynau ymlaen llaw. Mae Fersiwn Dyslecsia-Gyfeillgar a Fersiwn Print Bras hefyd ar gael. Os byddai’n well gennych lenwi un o’r ffurflenni hyn yn hytrach na’r ffurflen gais ar-lein, dychwelwch eich ffurflen i post@llenyddiaethcymru.org ynghyd â’ch enghraifft o waith creadigol. Fel arall, anfonwch e-bost at Llenyddiaeth Cymru ar post@llenyddiaethcymru.org neu ffoniwch ni am sgwrs: 01766 522 811 (Swyddfa Tŷ Newydd).

Nôl i Barddoniaeth Bob Dydd