Caiff Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss ei arwain gan Llenyddiaeth Cymru, mewn partneriaeth â Rhaglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, Llywodraeth Fflandrys ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae’r prosiect blwyddyn o hyd yn cynnwys:
- Noson o farddoniaeth, rhyddiaith, cerddoriaeth a thrafodaeth ar Hedd Wyn a beirdd y Rhyfel Byd Cyntaf yn Passa Porta, Tŷ Rhyngwladol Llenyddiaeth ym Mrwsel – mwy o wybodaeth;
- digwyddiadau coffaol yn Iwerddon;
- cyfnewidfa breswyl ar gyfer awduron rhwng Passa Porta ym Mrwsel a Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy – mwy o wybodaeth;
- a sioe farddoniaeth amlgyfrwng newydd dan y teitl Y Gadair Wag – i’w llwyfannu ym mis Medi 2017;
- yn ogystal, roedd Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn yn traddodi Darlith Glyn Jones 2017 yng Ngŵyl y Gelli ar Hedd Wyn.
Mae canrif union eleni ers Trydedd Brwydr Ypres (Passchendaele), lle bu farw miloedd o filwyr ac yr anafwyd oddeutu 3,000 o’r 38ain Adran (Gymreig). Un o’r rhai a laddwyd oedd Hedd Wyn (neu Ellis Humphrey Evans), y bardd o Feirionnydd a fu farw cyn clywed ei fod yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw.
Gorchuddiwyd cadair wag yr Eisteddfod â chynfas ddu a chofir Hedd Wyn hyd heddiw, yn Fflandrys fel yng Nghymru, fel symbol grymus o’r tywallt gwaed a’r gwastraff a fu. Yn rhyfeddol lluniwyd y Gadair Ddu gan ffoadur rhyfel o Fflandrys o’r enw Eugeen Vanfleteren.
Mae cymariaethau trawiadol rhwng stori Hedd Wyn a bardd ifanc o Iwerddon, Francis Ledwidge. Bu farw’r ddau ar yr un dydd ac maent ill dau wedi eu claddu ym mynwent Artillery Wood. Bydd y cymariaethau yma’n cael eu harchwilio, ynghyd â themâu megis ffoaduriaid a dwyieithrwydd mewn gweithdai gyda phobl ifanc fydd yn cael eu cynnal yn Iwerddon yn ddiweddarach eleni.
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Mae canmlwyddiant Passchendaele, ble lladdwyd Hedd Wyn a chymaint o filwyr eraill o Gymru, yn rhan allweddol o raglen Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918. Mae’r rhaglen o ddigwyddiadau a gaiff eu trefnu gan Llenyddiaeth Cymru yn gyfle i ystyried aberth enfawr y milwyr yn ogystal â thanlinellu colli rhai o’n unigolion mwyaf talentog a chreadigol. Mae’n hollbwysig fod cenedlaethau’r dyfodol yn deall effaith y rhyfel ofnadwy hwn ar gymaint o agweddau ar fywyd Cymru.”
Neu cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: post@llenyddiaethcymru.org / 029 2047 2266.
Am fwy o wybodaeth am Rhaglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, ewch i: www.cymruncofio.org