Dewislen
English
Cysylltwch

Cynhaliwyd noson o farddoniaeth, rhyddiaith, cerddoriaeth a thrafodaeth gan Llenyddiaeth Cymru yn Passa Porta, Tŷ Rhyngwladol Llenyddiaeth ym Mrwsel, ar 23 Mai 2017.

Roedd y digwyddiad yn rhan o Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss, prosiect blwyddyn o hyd sy’n coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf a’r bardd o Gymru Hedd Wyn, a laddwyd ar faes y gad yn Fflandrys yn 1917, dim ond ychydig wythnosau cyn iddo ennill cystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw.

Pwrpas y noson ym Mrwsel oedd archwilio bywyd a gwaith Hedd Wyn a beirdd eraill y Rhyfel Byd Cyntaf, a chyflwyno ymatebion cyfoes i’w gwaith. Ymhlith y perfformwyr roedd: Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn; y bardd a’r awdur Ffleminaidd Geert Buelens; y bardd a’r cerddor Gwyneth Glyn; y bardd a’r academydd Nerys Williams; a’r nofelydd arobryn Patrick McGuinness. Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn, oedd yn agor y noson.

Mae lluniau o’r noson isod:

Barddoniaeth Colled: Brwsel | Poetry of Loss: Brussels - 23/05/17

 

Caiff Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss ei arwain gan Llenyddiaeth Cymru, ac fe’i ariannir gan Raglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, ac fe’i weithredir mewn partneriaeth â Llywodraeth Fflandrys ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Mewn datganiad cyn y noson, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Er mor fawr oedd y golled pan laddwyd Hedd Wyn yn 30 mlwydd oed, mae ei etifeddiaeth yn parhau yn ei gerddi a’i lawysgrifau. Mae’n bwysig ein bod yn cofio’r aberth a wnaed ganddo ef a’i gyd-filwyr ar gaeau Fflandrys gan mlynedd yn ôl. Dymunaf bob llwyddiant i drefnwyr a chyfranogwyr y noson.”

 

Darllenwch ein rhaglen goffaol isod er mwyn darganfod mwy am y noson yn Passa Porta, y perfformwyr, a rhaglen ehangach Barddoniaeth Colled:

Nôl i Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss