Dewislen
English
Cysylltwch

Bardd Plant Cymru yn 20 oed

Rhwng 12 -16 Hydref 2020 cynhaliwyd wythnos o ddigwyddiadau i ddathlu pen-blwydd cynllun Bardd Plant Cymru yn 20 oed.

Roedd yr wythnos yn cynnwys gweithdai barddoniaeth digidol am ddim ar gyfer gwahanol oedrannau gan gynnwys dysgwyr Cymraeg, a chyfle i ysgolion ennill ymweliad gan Gruffudd Owen, pecyn llyfrau, a phrintiau arbennig wedi’i lofnodi gan bob un o’r 16 Bardd Plant Cymru ers dechrau’r cynllun yn y flwyddyn 2000.

 

Bardd Plant Cymru yn 20 oed – cerdd gan Gruffudd Owen

Cyfansoddodd Gruffudd Owen gerdd i nodi’r achlysur, a chrëwyd fideo ohoni yn serennu pob un o’r beirdd sydd wedi dal y teitl Bardd Plant Cymru ers dechrau’r cynllun yn y flwyddyn 2000. Gallwch wylio’r fideo isod:

 

Holi’r Beirdd Plant

Yn ystod yr wythnos, rhyddhawyd cyfres o gyfweliadau fideo gyda Beirdd Plant y gorffennol. Gallwch eu gwylio isod:

 

Cwestiynau Cyflym i’r Beirdd Plant

Yn ystod yr wythnos, rhyddhawyd cyfres o glipiau fideo Cwestiynau Cyflym gyda Beirdd Plant y gorffennol. Gallwch eu gwylio isod:

 

Gweithdai digidol

Cafodd 3 gweithdy digidol gan Gruffudd Owen eu rhyddhau yn ystod yr wythnos.

Mae’r gweithdai ar ffurf cyfresi o fideos byr i athrawon eu chwarae i ddosbarth. Mae’r fideos yn ffurfio sgerbwd gweithdy tua dwy awr o hyd, gyda thasgau amrywiol i ddisgyblion eu cwblhau rhwng bob un.

Mae’r fideos, pecynnau adnoddau sy’n cyd-fynd â’r fideos, a chanllawiau i athrawon ar gael drwy’r is-dudalennau ar waelod y dudalen.

 

Adnoddau pellach

Crëwyd adnoddau pellach ar gyfer y dathliadau hefyd. Gellir eu defnyddio fel tasgau i blant, neu i greu arddangosfa Bardd Plant Cymru mewn ysgol. Mae’r adnoddau, sy’n cynnwys baneri (bunting), posteri amrywiol, lluniau o’r holl feirdd dros y blynyddoedd, templedi i blant ysgrifennu eu cerddi eu hunain arnynt, cwis, a chwileiriau, ar gael i’w is lwytho drwy’r ddolen ar waelod y dudalen. Cofiwch argraffu’r nifer sydd angen arnoch yn unig ac ar bapur wedi’i ailgylchu os yn bosib.