Dewislen
English
Cysylltwch

Cynllun pontio’r cenedlaethau sy’n dathlu ardal a chymuned y Bala drwy farddoniaeth a chân

 

Cyfranogwyr: Pontio’r cenedlaethau rhwng disgyblion uwchradd a phobl hŷn

Awduron ac artistiaid: Branwen Haf Williams, Osian Huw Williams a Haf Llewelyn

Lleoliad: Bala, Gwynedd

Gwybodaeth bellach: Bydd ‘Cerddi’n Clymu’ yn defnyddio cerddi a cherddoriaeth i bontio’r cenedlaethau yn ardal y Bala. Fe gynhelir gweithdai gyda disgyblion blwyddyn 8 Ysgol Godre’r Berwyn a henoed o’r ardal er mwyn rhannu atgofion hen a newydd am fywyd yn yr ardal wledig hon. Yna, ceir cyfle i greu cerddi yn ymateb i’r atgofion hyn, cyn cyfansoddi cerddoriaeth fel cefnlen i’r cerddi neu eu troi’n ganeuon, a’u perfformio i gynulleidfa. Dyma brosiect fydd yn grymuso llais y rhai sydd efallai’n teimlo ar gyrion cymdeithas, a dangos fod gan ddisgyblion ysgol a’r henoed fel ei gilydd gymaint i’w gynnig i’n cymdeithas. Bydd llenyddiaeth a cherddoriaeth yn gerbyd i ddod a phobl ynghyd, creu cyfeillgarwch newydd a meithrin talentau.

 

Branwen Haf Williams: Mae Branwen Haf yn ymarferydd creadigol sy’n creu a chynnal gweithdai amrywiol. Mae’n chwarae mewn bandiau megis Blodau Papur a Cowbois Rhos Botwnnog ac yn cyd-redeg label recordiau.

 

Osian Huw Williams: Mae Osian Huw yn gerddor llawn amser sy’n rhannu ei amser rhwng bandiau megis Candelas a Blodau Papur a rhedeg Cwmni Recordio Drwm. Mae hefyd yn cynnal gweithdai cyfansoddi, perfformio a recordio ledled Cymru.

 

Haf Llewelyn: Awdur llawrydd o Lanuwchllyn yw Haf sy’n cynnal gweithdai ysgrifennu creadigol gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion. Yn Ysgrifennu ar gyfer plant ac oedolion, ennillodd ei nofel i bobl ifanc, Diffodd y Sêr, wobr Tir na n-Og 2014,  a chyrhaeddodd ei nofel, Gwenwyn a Gwasgod Felen, y rhestr fer yn 2019. Mae hefyd wedi cyhoeddi cerddi i blant ac oedolion a chyrhaeddodd ei chyfrol o farddoniaeth, Llwybrau, restr hir Llyfr y Flwyddyn yn 2010.

 

Dyfyniad:       

 “Mae’r cyfleooedd i bobl o wahanol oedran ddod at ei gilydd i gymdeithasu yn brin iawn yn ein cymdeithas bellach; a phrinnach byth i rannu profiad creadigol. Braint fydd gwyrdroi hyn gyda’r prosiect Cerddi’n Clymu, a gweld y celfyddydau’n tynnu’n cymdeithas ynghyd.”

Nôl i Ein Prosiectau