Keys to the Future
I nodi Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar Hydref 10 2022, pleser oedd rhannu cerdd ac animeiddiad gan y Children’s Laureate Wales, Connor Allen, mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol Seiciatryddion Cymru. Ysbrydolwd y gerdd gan gyfres o weithdai barddoniaeth yn trafod effeithiau technoleg ar iechyd meddwl plant.
Cynhaliwyd y gweithdai barddoniaeth mewn dwy ysgol gynradd yng Nghaerdydd ym mis Ebrill 2022, a hynny yn dilyn trafodaethau rhithiol ar y pwnc wedi eu trefnu gan Goleg Brenhinol Seiciatryddion Cymru a Technology Enabled Care Cymru. Yn ystod y gweithdai barddoniaeth, anogodd Connor y disgyblion i fynegi a pherchnogi eu barn drwy ysgrifennu cerddi eu hunain.
Ysgogodd y gyfres o weithdai ac ymatebion y plant y Children’s Laureate i ysgrifennu cerdd newydd o’r enw Keys to the Future sydd wedi cael ei haddasu’n fideo wedi’i animeiddio gan Ross Martin.