Pwy fyddwn ni’n eu hariannu?
- Dim ond i sefydliadau bona fide y gellir gwneud cynigion nawdd Ysbrydoli Cymunedau; ni all unigolion wneud cais am nawdd o’r gronfa hon. Mae sefydliadau cymwys yn cynnwys ysgolion, llyfrgelloedd, tafarndai, clybiau, cymdeithasau, canolfannau cymunedol, gwyliau celfyddydol, a lleoliadau eraill ledled Cymru. Bydd angen i’r sefydliadau hyn feddu ar gyfrif banc pwrpasol er mwyn derbyn nawdd.
- Ni all Llenyddiaeth Cymru gynnig cyllid i bleidiau gwleidyddol, grwpiau caeedig (ac eithrio ysgolion a grwpiau sy’n gweithio gydag oedolion sy’n agored i niwed), rhaglenni awduron preswyl na digwyddiadau codi arian, waeth pa mor deilwng yw’r achos.
- Nid yw sefydliadau sy’n derbyn cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer y gweithgarwch hwn neu gyllid cyffredinol Portffolio Celfyddydol Cymru fel arfer yn gymwys. Cysylltwch â’r tîm i drafod cymhwystra os ydych chi wedi cael cyllid gan Gyngor y Celfyddydau, ond eich bod yn bwriadu ceisio cyllid ychwanegol drwy’r Gronfa Ysbrydoli Cymunedau drwy: 01766 522811 / nawdd@llenyddiaethcymru.org
- Ni all awduron ymgeisio am nawdd i’w hunain (hyd yn oed os ydynt yn gweithredu fel ‘trefnydd digwyddiad’ ar ran sefydliad) ac ni all sefydliadau geisio cyllid am ddigwyddiadau lle maen nhw’n archebu eu haelodau eu hunain, eu haelodau pwyllgor, neu eu cyflogeion, i ddarparu gweithdai neu berfformiadau..
Beth wnawn ni ei ariannu?
Mae’r Gronfa Ysbrydoli Cymunedau yn bodoli i gefnogi profiadau i ymarfer, mwynhau a deall llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol, gan gynnwys ffuglen (nofelau a straeon byrion), barddoniaeth, dramâu ysgrifenedig, ysgrifennu arbrofol, beirniadaeth lenyddol, a llenyddiaeth ar gyfer plant a phobl ifanc. Gallai’r digwyddiadau hyn fod yn un o’r canlynol:
- Gweithdai ysgrifennu creadigol ymarferol
- Darlithoedd
- Darlleniadau/perfformiadau
- Trafodaethau panel
- Gweithdai mewn ysgolion* (*mae’n rhaid i’r rhain ymgorffori gwaith ysgrifennu creadigol fel rhan annatod o’r gweithgaredd bob amser)
Nod y Gronfa hon yw cefnogi digwyddiadau a fyddai’n annhebygol o ddigwydd fel arall. Ni fydd digwyddiadau y rhagwelir y byddant yn gwneud elw yn cael eu cefnogi. Ni allwn ddarparu cyllid i ddigwyddiadau sydd eisoes wedi digwydd.
Gellir cynnal digwyddiadau yn unrhyw le yng Nghymru (yn ddigidol neu wyneb yn wyneb), ac mewn unrhyw iaith. Byddwn ni’n ystyried cyllid ar gyfer digwyddiadau sy’n cael eu cynnal y tu allan i Gymru, ond yng ngwledydd Prydain, cyhyd â’u bod yn cael eu cynnal yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Gellir llenwi’r ffurflenni cais yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Dylai digwyddiadau gael eu hysbysebu, a bod yn agored ac yn hygyrch i’r cyhoedd, ac eithrio digwyddiadau mewn ysgolion a digwyddiadau sy’n cynnwys oedolion sy’n agored i niwed. Dylai trefnwyr digwyddiadau ychwanegu manylion eu digwyddiadau a’u gweithgareddau eu hunain yn uniongyrchol i adran Digwyddiadau gwefan Llenyddiaeth Cymru. Gallwch wneud hyn yn syth pan fydd manylion eich digwyddiad wedi’u cadarnhau.
Nid yw pynciau fel hanes cenedlaethol a rhyngwladol, gwleidyddiaeth, meddygaeth, materion tramor, economeg, hanes crefyddol, teithio, natur, darlledu, archaeoleg, ffigurau enwog anllenyddol, garddio, ioga, na choginio yn gymwys.
Telerau ac Amodau
Gwneir unrhyw gynigion am nawdd Llenyddiaeth Cymru i chi ar y sail eich bod yn derbyn Telerau ac Amodau Cronfa Ysbrydoli Cymunedau. Gallai methu â chydymffurfio â Thelerau ac Amodau Llenyddiaeth Cymru arwain at wrthod neu dynnu cynigion am nawdd yn ôl, a bydd yn peryglu unrhyw gyllid yn y dyfodol drwy’r cynllun. Gellir islwytho’r Telerau ac Amodau o’r dudalen hon – gweler isod.
Drwy dderbyn unrhyw gynigion am gyllid gan Llenyddiaeth Cymru, rydych chi’n cytuno i’r telerau ac amodau hyn ac felly yn rhwym iddynt. Os ydych yn cael anhawster ag unrhyw un o’r rhain, neu os hoffech eu trafod ymhellach, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru drwy: 01766 522811 / nawdd@llenyddiaethcymru.org