Cynrychioli Cymru
Mae awduron yn cael eu dethol trwy broses gystadleuol agored, gan banel o unigolion allanol. Mae’r ffenestr ymgeisio yn agor yn yr haf/hydref, a’r rhaglen blwyddyn o hyd yn rhedeg o Ebrill – Mawrth.
Mae’r rhaglen yn cynnwys gwobr ariannol o hyd at £3,300 i brynu amser sgwennu i awduron, mynychu sesiynau hyfforddiant a digwyddiadau llenyddol, ac yn gyfraniadau at gostau teithio. Mae’r awduron hefyd yn derbyn sesiynau mentora; gweithdai a sgyrsiau misol, yn ogystal a chyfleoedd i wneud cysylltiadau newydd ac adeiladu perthnasau gydag awduron eraill. Yn ystod y flwyddyn, bydd cyfleoedd iddynt gwrdd ag arbenigwyr yn y diwydiant llenyddiaeth a chyhoeddi o Gymru a thu hwnt.
Wedi i’r cynllun 12 mis ddirwyn i ben, bydd Llenyddiaeth Cym,ru yn parhau i weithio gyda’r garfan a gyda phartneriaid eraill i sichrau ei bod yn derbyn y cefnogaeth a’r cyngor sydd ei angen arnynt i gyflawni eu goliau. Ers ei sefydlu yn 2020, mae 54 o awduron wedi cymryd rhan yn rhaglen Cynrychioli Cymru, ac aelodau o garfanau blaenorol bellach wedi sefydlu gyrfaoedd disglair i’w hunain.
Caiff rhaglen Cynrychioli Cymru ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.